HUGHES, DAVID ROWLAND ('Myfyr Eifion '; 1874 - 1953), ysgrifennydd yr Eisteddfod Genedlaethol

Enw: David Rowland Hughes
Ffugenw: Myfyr Eifion
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1953
Priod: Maggie Hughes (née Ellis)
Rhiant: Elizabeth Hughes
Rhiant: William Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgrifennydd yr Eisteddfod Genedlaethol
Maes gweithgaredd: Eisteddfod
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 9 Medi 1874 ym Maesglas, Holywell, Fflint, yn fab i'r gorsaf-feistr William Hughes ac Elizabeth ei wraig. Addysgwyd ef yn ysgolion elfennol Porthmadog a Bangor; ysgol golegol Llandudno (1888-91); a cholegau Prifysgol Cymru ym Mangor (1891-92) ac yn Aberystwyth, ond bu'n rhaid iddo adael yn gynnar i ennill ei damaid. Dychwelodd i'w hen ysgol yn Llandudno fel athro am flwyddyn cyn troi i fyd busnes. Aeth i Lundain yn 1894 ac yno y bu am 45 mlynedd hyd nes iddo ymddeol o'i waith fel uchel-swyddog gyda chwmni United Dairies a symud i Hen Golwyn.

Bu'n aelod blaenllaw ym mhob agwedd ar fywyd ymhlith Cymry Llundain gan fod yn gydysgrifennydd Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1909 ac ysgrifennydd Eglwys Falmouth Road (MC). Gweithiodd yn galed dros Urdd Gobaith Cymru yn y ddinas a rhoddai sgyrsiau ar y radio a darlithiau poblogaidd. Golygodd (1920-39) Our Notebook, sef cylchgrawn staff United Dairies a bu'n gyd-olygydd (1926-38) cylchgrawn Cymry Llundain, Y Ddolen, gyda John Williams (1872 - 1944), gan ysgrifennu iddo o dan yr enwau ' Tafwys ', ' A wayfarer ', a ' Hafren '. Wedi dychwelyd i Gymru etholwyd ef yn drysorydd (1941) a llywydd (1944-45) Undeb Cymru Fydd ac ef oedd un o brif arloeswyr a sylfaenwyr Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon yn 1925 ac un sir Ddinbych yn 1950. Ond ei brif gyfraniad i Gymru oedd fel ysgrifennydd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1935-36, a chyd-ysgrifennydd gyda Chynan (Cynan Evans Jones) wedi uno'r gymdeithas â Gorsedd y Beirdd yn 1937, hyd 1947. Ei waith di-ildio ef a sicrhaodd barhad yr Eisteddfod trwy gydol dyddiau anodd y rhyfel. Ef hefyd a sicrhaodd, ar waethaf prinder papur, gyhoeddi'r misolyn Cofion Cymru (1941-46), a'r chwe 'llyfr anrheg' (1943-46) a ddosbarthwyd yn rhad i'r Cymry yn y lluoedd arfog, ac a werthfawrogwyd yn fawr ganddynt (gweler llawysgrifau D.R. Hughes yn Ll.G.C.). Yn 1943 derbyniodd radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru am y gwaith hyn.

Priododd, 4 Ebrill 1903, â Maggie Ellis, Llundain, a bu iddynt dair merch. Bu farw 29 Awst 1953 a'i gladdu ym mynwent Bron-y-nant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.