HUGHES, HOWEL HARRIS (1873 - 1956), gweinidog (MC), prifathro'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth

Enw: Howel Harris Hughes
Dyddiad geni: 1873
Dyddiad marw: 1956
Priod: Margaret Ellen Hughes (née Roberts)
Rhiant: Jane Hughes
Rhiant: J. Richard Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC), prifathro'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 7 Medi 1873, ym Mryn-teg, Llanfair Mathafarn Eithaf, Môn, mab J. Richard Hughes, gweinidog (MC), a Jane ei briod. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Biwmares, Coleg y Brifysgol, Bangor (lle graddiodd yn y celfyddydau), a Choleg Diwinyddol y Bala (lle graddiodd mewn diwinyddiaeth - un o'r ddau gyntaf a gafodd radd B.D. Cymru). Ordeiniwyd ef yn 1901, a bu'n gweinidogaethu ym Mhenmachno (1901-03), Maenofferen, Blaenau Ffestiniog (1903-07), Moriah, Caernarfon (1907-09), a Princes Road, Lerpwl (1909-27). Yn 1927 penodwyd ef yn brifathro 'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth, a bu yn y swydd honno hyd 1939. Wedi ymddeol symudodd i gylch Lerpwl gan gymryd gofal eglwys Gymraeg Southport am gyfnod (1939-50). Priododd, 1902, Margaret Ellen, merch Griffith Roberts ('Gwrtheyrn'), Y Bala; ganwyd iddynt dri o feibion. Dioddefodd gryn lesgedd yn ei flynyddoedd olaf, a bu farw 23 Tachwedd 1956.

Yr oedd yn bregethwr grymus a dylanwadol yn ei ddydd, a chofid yn hir am ambell oedfa dan ei weinidogaeth mewn cymanfa a sasiwn. Datblygodd yn wr o ddylanwad yn ei Gyfundeb. Bu'n llywydd Sasiwn y Gogledd (1943), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol yn ystod Rhyfel Byd II, 1939-41. Ef oedd ysgrifennydd y pwyllgor ar yr athrawiaeth i'r Comisiwn Ad-drefnu ar ôl Rhyfel Byd I, ac ef oedd un o'r pedwar a luniodd y ' Datganiad byr ar ffydd a buchedd Eglwys Bresbyteraidd Cymru '. Cyfrifid ei Esboniad ar lyfr Amos (1924) yn un o'r goreuon o'r gyfres a gyhoeddwyd gan y Cyfundeb. Gwr addfwyn a graslon oedd Howel Harris Hughes, a chofid amdano gan ei wrandawyr a'i ddisgyblion fel sant a phroffwyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.