HUGHES, EMRYS DANIEL (1894 - 1969), gwleidydd, newyddiadurwr ac awdur

Enw: Emrys Daniel Hughes
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1969
Priod: Martha Hughes (née Cleland)
Priod: Nan Hughes (née Hardie)
Rhiant: Annie Hughes (née Williams)
Rhiant: J.R. Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd, newyddiadurwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 10 Gorffennaf 1894, yn fab i J.R. Hughes, 94 Henry Street, Tonypandy, Morgannwg, gweinidog (MC), ac Annie (ganwyd Williams) ei wraig. Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor, Abercynon, Morgannwg, ysgol uwchradd Aberpennar, a choleg addysg dinas Leeds. Fel athro ysgol a newyddiadurwr ym Mhontypridd a'r Rhondda, daeth yn aelod brwd o'r Blaid Lafur a bu cysylltiad agos rhyngddo a Keir Hardie, A.S. Safodd yn aflwyddiannus fel ymgeisydd Llafur yn etholaeth Bosworth, swydd Gaerlŷr, yn etholiad cyffredinol 1923. Rhwng 1931 ac 1946 bu'n olygydd Forward, papur newydd y mudiad Sosialaidd yn yr Alban. Magodd brofiad eang o weithgareddau llywodraeth leol, profiad a fu o fudd mawr iddo pan gafodd ei ethol yn aelod seneddol (Ll) dros etholaeth de Ayrshire mewn is-etholiad yn Chwefror 1946. Parhaodd i gynrychioli'r etholaeth hon yn y senedd hyd at ei farw. Aeth ati i olygu argraffiad Albanaidd o Tribune ar ôl Rhyfel Byd I. Drwy gydol ei yrfa safai ar asgell chwith y Blaid Lafur, arhosodd ar feinciau cefn Tŷ'r Cyffredin, ac ystyrid ef yn wrthryfelwr tanbaid. Fe'i hamddifadwyd o chwip y Blaid Lafur rhwng Tachwedd 1954 ac Ebrill 1955 ar ôl iddo bleidleisio yn erbyn parodrwydd y Ceidwadwyr i dderbyn ailarfogi yn yr Almaen yn hytrach nag ymatal rhag pleidleisio yn unol â chyfarwyddiadau'r Blaid Lafur. Collodd chwip y Blaid Lafur eto rhwng Mawrth 1961 a Mai 1963 pan ddewisodd bleidleisio yn erbyn amcangyfrifon y lluoedd arfog. Yr oedd yn heddychwr selog, a threuliodd flwyddyn o Ryfel Byd I yng ngharchar Caernarfon. Yr oedd yn ymwelydd cyson â Moscow, yn gyfaill agos i'r bardd Samuel Marshak, a gwrthwynebodd weithgareddau NATO yn ddi-ffael.

Cyhoeddodd nifer fawr o gofiannau a gweithiau eraill, ac yn eu plith Keir Hardie (1950; arg. newydd 1957), cyfrol a roes bleser arbennig iddo, Winston Churchill in war and peace (1950) a Winston Churchill: the British bulldog (1955), astudiaethau a amlygodd atgasedd tuag at eu gwrthrych ar ran eu hawdur. Ef hefyd a luniodd Pilgrim's progress in Russia (1957), Macmillan: portrait of a politician (1962), Sir Alec Douglas-Home (1964), Parliament and mumbo jumbo (1966), The prince, the crown and the cash (1969), a Sidney Silverman: rebel in Parliament (1970), cyfrol a ymddangosodd ar ôl marwolaeth ei hawdur. Yr oedd bob amser yn barod i ddefnyddio'i ddoniau llenyddol er budd y Blaid Lafur a chyhoeddodd amryw lyfrynnau Sosialaidd a gwrthryfel.

Priododd (1) yn 1924 Nan, merch Keir Hardie. Rhannai hi ei syniadau gwleidyddol a'i ddelfrydau, a bu ei marw hi yn 1947 yn ergyd drom iddo na chafodd erioed y gorau arni. Priododd (2) yn 1949 Martha, merch P.M. Cleland, ysgolfeistr yn Glasgow. Cartrefodd yn Lochnorris, Cumnock, swydd Ayr, a bu ef farw 18 Hydref 1969 ac yntau'n dal yn aelod o Dŷ'r Cyffredin. Llosgwyd ei weddillion yn Amlosgfa Masonhill. Rhoddwyd ei bapurau ar adnau yn Llyfrgell Genedlaethol yr Alban.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.