HOWELLS, GEORGE (1871 - 1955), prifathro coleg Serampore, India

Enw: George Howells
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1955
Rhiant: Jane Howells
Rhiant: George William Howells
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro coleg Serampore, India
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Emlyn Davies

Ganwyd 11 Mai 1871 ar fferm Llandafal, Cwm, Mynwy, yn fab George William a Jane Howells. Aeth i ysgol fwrdd y Cwm ac i ysgol ramadeg Pengam. Enillodd ysgoloriaeth Ward i Goleg y Bedyddwyr, Regent's Park, Llundain. Graddiodd ym Mhrifysgol Llundain a pharhau ei astudiaethau yng Ngholeg Mansfield a Choleg Iesu, Rhydychen; Coleg Crist, Caergrawnt; ac ym Mhrifysgol Tübingen. Derbyniodd radd mewn pedair prifysgol, a gradd er anrhydedd gan Brifysgolion S. Andrew, yr Alban; Serampore, India; a Chymru.

Aeth i'r India yn 1895 i ofalu am lenyddiaeth ac addysg yno o dan nawdd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr. Yn 1907 penodwyd ef yn brifathro coleg Serampore, a bu yno am chwarter canrif. Ailosododd y coleg ar sylfeini rhyddfrydol William Carey, a glynu wrth ei ddelfrydau uchel. Bu'n gymrawd ac arholwr Prifysgol Calcutta (1913-29), ac yn aelod o gyngor deddfwriaethol Bengal yn 1918. Dychwelodd yn 1932 i fod yn ddarlithydd Hebraeg yng ngholeg Rawdon (B), lle y bu nes ymddeol yn 1935. Aeth i fyw i Cas-bach (Castleton), ger Caerdydd hyd nes y bu farw 7 Tachwedd 1955.

Cyhoeddodd gyfres o ddarlithoedd a roddodd ym Mhrifysgol Llundain yn 1909 yn The soul of India (1913). Golygodd The story of Serampore (1927), ac ysgrifennu'r rhan helaethaf ohono. Ysgrifennodd lawer o erthyglau ar addysg a diwinyddiaeth i gyfnodolion India.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.