HEMP, WILFRID JAMES (1882 - 1962), hynafiaethydd

Enw: Wilfrid James Hemp
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1962
Priod: Dulcia Hemp (née Assheton)
Rhiant: Alice Challoner Hemp (née Smith)
Rhiant: James Kynnerly Hemp
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Colin Alistair Gresham

Ganwyd 27 Ebrill 1882 yn Richmond, Surrey, unig blentyn James Kynnerly Hemp a'i wraig Alice Challoner (ganwyd Smith), Priododd ei chwaer hi â J. Lloyd-Jones, rheithor Cricieth 1883-1922, a thrwy hynny cafodd Hemp gysylltiad â gogledd Cymru, a threuliodd ei wyliau haf yn sir Gaernarfon. Addysgwyd ef yn ysgol Highgate, Llundain, a'i benodiad cyntaf oedd yn y Principal Probate Registry, yn Somerset House. Ei ddiddordebau pennaf oedd hanes, achyddiaeth a herodraeth; fe'i hetholwyd yn F.S.A. yn 1913, a'r un flwyddyn ymunodd â'r Weinyddiaeth Gweithiau Cyhoeddus fel arolygwr Henebion Cymru ac ysgrifennydd y Bwrdd Henebion. Ar ôl gwasanaeth byr yn y fyddin yn ystod Rhyfel Byd I, ymddiriedwyd iddo'r gwaith pwysig o arolygu atgyweirio cestyll gogledd Cymru - Beaumaris, Caernarfon, Harlech, Dinbych ac Ewlo; cloddio ac atgyweirio beddau megalithig yr oes Neolithig - Capel Garmon, Clwyd; Bryn Celli Ddu a Bryn yr Hen Bobl, Môn. Ar yr un pryd ysgrifennai adroddiadau a chyfarwyddiaduron ar y rhain ac ar lawer testun arall. Yn 1928 fe'i penodwyd trwy Warant Frenhinol yn ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru a Mynwy, a gyhoeddodd gyfrol ar henebion Môn yn 1937. Gohiriwyd y gwaith ar gyfrol Sir Gaernarfon oherwydd Rhyfel Byd II, ac ymddeolodd Hemp yn 1946. Ymunodd â Chymdeithas Hynafiaethau Cymru yn 1911 a bu'n llywydd arni 1955-56. Ysgrifennodd lawer o erthyglau i Archæologia Cambrensis (y mae rhestr o dros gant yn y Mynegai) ac i gyhoeddiadau eraill. Gwasanaethodd ar lu o bwyllgorau yng Nghymru. Cafodd radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1932. Yr oedd yn awdurdod ar herodraeth Gymreig, ac un o'r nifer bychan o hynafiaethwyr a osododd astudiaeth gynhanesyddol Cymru ar sylfaen ddilys yn rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif. Priododd, 1934, Dulcia, merch Richard Assheton. Yn 1939 aeth i fyw i Gricieth, ac yno y bu farw 14 Ebrill 1962.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.