HALL, GEORGE HENRY (1881 - 1965), yr Is-iarll Hall o Gwm Cynon cyntaf, gwleidydd

Enw: George Henry Hall
Dyddiad geni: 1881
Dyddiad marw: 1965
Priod: Alice Martha Hall (née Walker)
Priod: Margaret Hall (née Jones)
Rhiant: Ann Hall (née Guard)
Rhiant: George Hall
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Walter Thomas Morgan

Ganwyd 31 Rhagfyr 1881 ym Mhenrhiwceibr, Aberpennar, Morgannwg, mab George Hall, glöwr (bu farw 1889) brodor o Marshfield, swydd Gaerloyw, ac Ann Guard ei wraig (bu farw 1928) a ddaeth o Midsomer Norton ger Radstock, Gwlad-yr-Haf. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Penrhiwceibr, ond bu raid iddo ymadael â'r ysgol yn 12 oed i weithio yng nglofa Penrhiwceibr er mwyn helpu'i fam weddw a adawyd gyda theulu niferus i'w gynnal. Dyna'r unig addysg ffurfiol a gafodd, ond manteisiodd ar ddamwain a gafodd yn y gwaith, a'i cadwodd gartref am ysbaid hir, i ddarllen yn helaeth, ac i'w addysgu'i hun. Gweithiodd wrth y ffâs tan 1911, pryd y penodwyd ef yn bwyswr ar ran y gweithwyr ac yn gynrychiolydd lleol i'r South Wales Miners' Federation. Yn 1908 enillasai sedd ar gyngor dosbarth Aberpennar, yr aelod Llafur cyntaf i gynrychioli ward Penrhiwceibr. Bu'n aelod o'r cyngor am 18 mlynedd gan fod yn gadeirydd iddo ac i'r pwyllgor addysg. Yn etholiad cyffredinol 1922 etholwyd ef yn A.S. dros ddosbarth Aberdâr o fwrdeistrefi Merthyr, gan drechu C. B. Stanton y cyn-aelod. Cadwodd y sedd gyda mwyafrifoedd mawr (ddwywaith yn ddi-wrthwynebiad) hyd ei godi i Dy'r Arglwyddi yn 1946. Cafodd swydd Arglwydd Sifil y Morlys yn 1929. Datblygodd yn sylweddol fel gwleidydd rhwng 1931 ac 1935. Cyn hynny arbenigai ar y diwydiant glo, pwnc yr oedd yn feistr arno, ond, oblegid colledion trychinebus y Blaid Lafur yn etholiad 1931, bu raid iddo siarad o'r fainc flaen mewn dadleuon ar amryfal bynciau a oedd gynt y tu allan i faes ei ddiddordeb. Yr oedd yn siaradwr grymus y tu allan i'r Ty, a chofir yn hir am ei frwydr galed yn ne Cymru yn erbyn rheolau'r prawf moddion yn 1934-35. Yn 1940 etholwyd ef yn arweinydd y blaid seneddol Gymreig, ond ymddiswyddodd pan benodwyd ef yn Is-ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau yn llywodraeth Winston Churchill ym mis Mai 1940. Dyrchafwyd ef yn P.C. yn 1942. Bu'n ysgrifennydd ariannol y Morlys, 1942-43, ac yn Is-ysgrifennydd Seneddol dros Faterion Tramor o dan Anthony Eden, 1943-45. Pan ffurfiwyd y llywodraeth Lafur yng Ngorffennaf 1945 enwyd ef yn Ysgrifennydd gwladol dros y Trefedigaethau nes ei benodi'n Brif Arglwydd y Morlys yn Hydref 1946. Yr oedd yn hoff iawn o'r llynges ac yr oedd yn hapus yn y swydd, ond oherwydd ei fod yn heneiddio a'i iechyd yn fregus penderfynodd ymddeol ym Mai 1951. Bu'n ddirprwy-arweinydd yr arglwyddi Llafur hyd ddiwedd 1953, pan, i bob pwrpas, y daeth ei yrfa wleidyddol i ben.

Bu'n aelod ardderchog dros ei etholaeth. Yr oedd yn barod iawn ei gymwynas, yn gwrtais ac yn hawdd mynd ato. Gwnâi ei orau glas bob amser i amddiffyn ac achub cam ei etholwyr. Cofiai pobl Aberdâr yn ddiolchgar iawn am ei ymdrechion i ddenu diwydiannau newydd i'r ardal yn nyddiau du'r dirwasgiad. Yn 1937 darbwyllodd gwmni newydd Aberdare Cables i sefydlu ei ffatri yn Aberdâr a gwahoddwyd ef yn y diwedd i fod yn un o'r cyfarwyddwyr. Diolch yn bennaf i'w ymdrechion ef sefydlwyd ffatrïoedd Royal Ordnance yn Robertstown (Tresalem) a'r Rhigos yn 1940, ac yn 1945 daeth Cwmni Masnachol Hirwaun i fod. Yn sgîl y datblygiadau hyn daeth Aberdâr yn ganolfan diwydiannau ysgeifn, bendith amhrisiadwy i dref a ddibynasai'n ormodol ar lo yn y gorffennol.

Cafodd raddau anrhyd. LL.D. gan Brifysgolion Birmingham yn 1945 (o law Anthony Eden, y Canghellor) a Chymru yn 1946. Bu'n aelod ffyddlon o'r Eglwys yng Nghymru drwy gydol ei oes, ac etholwyd ef ar ei Bwrdd Llywodraethol.

Bu'n briod ddwywaith, (1) â Margaret merch William Jones, Ynys-y-bwl, 12 Hydref 1910. Bu hi farw 24 Gorffennaf 1941. O'r briodas hon yr oedd dau fab; olynodd y naill ei dad yn Is-iarll a lladdwyd y llall, is-lifftenant yn y llynges, 11 Mai 1942; (2) ag Alice Martha, merch Ben Walker o Brinklow, Rugby, yn 1964. Yr oedd hi'n aelod o gyngor sir Caerlyr. Bu ef farw yn ysbyty Caerlyr, 8 Tachwedd 1965.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.