GRIFFITH
,
GRACE WYNNE
(
1888
-
1963
),
nofelydd
.
Ganed yn
Chwef. 1888
yn
Niwbwrch
,
Môn
, merch y
Capten
W.G.
Roberts
. Chwaer iddi oedd
Elizabeth Ann
Williams
,
awdur
Hanes Môn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg
(
1927
). Addysgwyd hi yn
ysgol sir Caernarfon
. Bu'n
nyrsio
yn
Lerpwl
ym mlynyddoedd cynnar y ganrif bresennol, ac yno y cyfarfu â
Griffith Wynne
Griffith
,
Lerpwl
; pr. hwy yn
1914
. Bu f.
1 Mai 1963
.
Daeth i amlygrwydd yn
1934
pan ddaeth yn gydradd â
Kate
Roberts
yn
Eist. Gen. Castell-nedd
yng nghystadleuaeth y nofel. Cyhoeddwyd ei nofel yn
1935
dan y teitl
Creigiau Milgwyn
; nofel
Kate
Roberts
oedd
Traed mewn cyffion
. Adolygwyd
Creigiau Milgwyn
gan yr
Athro
T.J.
Morgan
; darniwyd y nofel yn drwyadl a chondemniwyd y
beirniad
(
Dr.
Tom
Richards
) yn chwyrn am ei gwobrwyo.
Llyfryddiaeth:
-
Y Llenor
,
1936
, 48-55;
-
Dafydd Jenkins
,
Y Nofel datblygiad y nofel Gymraeg ar ôl
Daniel Owen
, Caerdydd, 1948
(
1948
), 23;
-
gwybodaeth gan ei mab,
Huw Wynne Griffith
.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen /
Llandudoch / Llandybïe