GRIFFITH, ROBERT DAVID (1877 - 1958), cerddor a hanesydd canu cynulleidfaol Cymru

Enw: Robert David Griffith
Dyddiad geni: 1877
Dyddiad marw: 1958
Rhiant: Jane Griffith (née Williams)
Rhiant: Richard Griffith
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor a hanesydd canu cynulleidfaol Cymru
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Cerddoriaeth
Awdur: Huw Williams

Ganwyd 19 Mai 1877 yng Nghwm-y-glo, Sir Gaernarfon, o gyff cerddorol, yn fab i Richard Griffith, chwarelwr llechi, a Jane (ganwyd Williams) ei wraig. Yr oedd ei fam yn gyfnither i David Roberts ('Alawydd') ac i John Williams ('Gorfyniawc o Arfon'). Ar ôl symud i fyw i Fynydd Llandygái yn 1885, dychwelodd y teulu i Fethesda yn 1890, lle y bu yntau'n gweithio yn chwarel y Penrhyn. Yn ddiweddarach bu am gyfnod yn glerc mewn swyddfa, ac yna, hyd nes iddo ymddeol, yn drafaeliwr masnach. Symudodd i fyw i Hen Golwyn yn 1928, lle y cartrefodd am weddill ei oes.

Ni chafodd ddiwrnod o addysg uwchradd, ond trwy ei ddiwyllio'i hun datblygodd yn gerddor medrus ac yn ymchwilydd diwyd a llwyddiannus. Yn 1909 ffurfiodd gôr o 80 o leisiau ym Methesda i berfformio rhai o'r prif oratorïau gyda chyfeiliant cerddorfa, ac yn 1921 ffurfiwyd Cymdeithas Gorawl Bethesda o dan ei arweiniad. Ar ôl symud i Hen Golwyn ef a arweiniai Gymdeithas Gorawl Colwyn a'r Cylch (1929-36). Ymddiddorai hefyd mewn cerddoriaeth gerddorfaol; bu'n aelod selog o gerddorfa Roland Rogers, ac yn weithgar gyda Cherddorfa Gwynedd a Cherddorfa Ieuenctid Morfa Rhianedd.

Am gyfnod maith bu galw am ei wasanaeth fel beirniad, arweinydd cymanfa a darlithydd ar destunau cerddorol. Cyfrannai hefyd yn gyson i'r Traethodydd, Y Goleuad a'r Drysorfa, ac ef yw awdur y mwyafrif o'r ysgrifau yn ymwneud â cherddorion Cymru a geir yn Y Bywgraffiadur Dewiswyd ef yn olygydd cerddorol Trysorfa'r Plant ar ôl marw J.T. Rees, ac yn 1951 yn gadeirydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Ef a fu'n bennaf gyfrifol am gael 'Detholiad' blynyddol o donau ar gyfer cymanfaoedd canu y Methodistiaid Calfinaidd, a gwasanaethodd fel ysgrifennydd pwyllgor mawl y Cyfundeb o'i ddechreuad hyd at 1958. Ni chyfansoddodd ryw lawer, ar wahán i'r unawd ' Y Sipsi ', ac ychydig o ddarnau cysegredig ar gyfer plant.

Dechreuodd chwilio ac ysgrifennu hanes canu cynulleidfaol y genedl tuag 1920, a chyfrannu ysgrifau dan y teitl ' Hanes dechrau canu cynulleidfaol Cymru ' i'r Cerddor, gan gychwyn gyda rhifyn Gorffennaf 1931. Ar apêl John Lloyd Williams aeth ymlaen a gorffen yr ymchwil, a ffrwyth y llafur hwnnw a geir yn y gyfrol Hanes canu cynulleidfaol Cymru (1948) Yn 1952 cyflwynodd Prifysgol Cymru radd M.A. er anrhydedd iddo. Bu farw yn ei gartref yn Hen Golwyn, 21 Hydref 1958, a'i gladdu ym mynwent Bron-y-nant, Bae Colwyn. Diogelwyd rhai o'i lawysgrifau yn llyfrgell Coleg y Gogledd ym Mangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.