GREENLY, EDWARD (1861 - 1951), daearegwr

Enw: Edward Greenly
Dyddiad geni: 1861
Dyddiad marw: 1951
Priod: Annie Greenfly (née Barnard)
Rhiant: Harriet Greenfly
Rhiant: Charles H. Greenfly
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: daearegwr
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganwyd 3 Rhagfyr 1861 ym Mryste, yn fab i Charles H. Greenly a'i wraig Harriet. Wedi'i addysgu yn Clifton College, Bryste, bu am gyfnod yn glerc trwyddedig mewn swyddfa cyfreithiwr yn Llundain, ond ymadawodd er mwyn cael astudio yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain. Ymunodd â'r Arolwg Ddaearegol (Yr Alban) yn 1889 ond yn 1895 ymddiswyddodd a dechrau ar dasg a osododd iddo ef ei hun, sef ymgymryd yn answyddogol ag arolwg ddaearegol newydd o Ynys Môn. Priododd Annie Barnard yn 1891 (bu hi farw yn 1927) a buont yn cydweithio ar y dasg hon nes ei chwblhau yn 1910. Cyhoeddwyd The geology of Anglesey, 2 gyf., yn 1919 a'r map 1 mod. yn 1920. Estynnwyd y gwaith ar ôl hynny i Arfon. Cyhoeddodd (gyda Howel Williams) Methods of geological surveying (1930) ac ymddangosodd ei hunan-gofiant, A hand through time, yn 1938. Dyfarnwyd iddo fedal Lyell y Gym. Ddaearegol yn 1920, a medal Cymdeithas Ddaearegol Lerpwl yn 1933. Cafodd radd D.Sc. er anrhydedd Prifysgol Cymru yn 1920. Bu farw ym Mangor 4 Mawrth 1951.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.