GITTINS, CHARLES EDWARD (1908 - 1970), addysgydd

Enw: Charles Edward Gittins
Dyddiad geni: 1908
Dyddiad marw: 1970
Priod: Margaret Anne Gittins (née Davies)
Rhiant: Frances Gittins (née Rabbit)
Rhiant: Charles Thomas Gittins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: addysgydd
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn Rhostyllen ger Wrecsam, Sir Ddinbych, 24 Ionawr 1908, yn fab i Charles Thomas a Frances (ganwyd Rabbit) Gittins. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Rhostyllen, 1911-15, Ysgol Bersham, 1915-20, Ysgol Sir y Bechgyn Grove Park, Wrecsam, 1920-25, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 1925-31. Fe'i bwriodd ei hun i ganol bywyd y coleg yn ei holl agweddau, bu'n llywydd y Gymdeithas Ddadlau ac yn llywydd Cyngor y Myfyrwyr. Graddiodd yn 1928 gyda dosbarth I disglair mewn hanes, yna cymerodd gwrs hyfforddiant ar gyfer addysg uwchradd a chael diploma'r Brifysgol mewn addysg yn 1929. O hynny hyd 1931, bu'n dal ysgoloriaeth Eyton Williams i raddedigion a gwneud ymchwil a arweiniodd yn 1935 i radd M.A. am draethawd ar Condorcet fel addysgydd. Yn ystod y cyfnod hwn cynrychiolodd Gymru deirgwaith yn yr Ysgol i Raddedigion yng Ngenefa.

Yng ngogledd ddwyrain Lloegr y bwriodd ei brentisiaeth mewn dysgu a gweinyddu, rhwng 1932 ac 1945, fel athro hanes yn ysgol ramadeg y Brenin Iago yn Bishop Auckland, 1932-38, dirprwy-brifathro 'r ysgol yn 1937, swyddog cynorthwyol dros addysg uwchradd sir Durham yn 1938, a dirprwy gyfarwyddwr addysg West Riding, sir Efrog yn 1942. Fel tiwtor o dan Brifysgol Durham cafodd brofiad o addysg allanol prifysgol a dosbarthiadau Addysg y Gweithwyr.

Dychwelodd i Gymru yn 1945 i fod yn gyfarwyddwr addysg sir Fynwy, ac o hynny hyd derfyn ei oes cyflwynodd ei hyfforddiant academaidd cyfoethog, ei brofiad ymarferol, a'i ynni anghyffredin i wasanaeth addysg a bywyd cyhoeddus Cymru. O 1956 i 1970 cafodd faes eangach i'w allu fel arweinydd, ac i'w ddylanwad, fel Athro Addysg a deon y gyfadran addysg, yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe. Amlinellodd ei ddelfryd o addysg yn ei ddarlith agoriadol yn 1957. Pwysleisiodd yr angen am gydweithrediad rhieni, athrawon a disgyblion i ffurfio cymunedau addysgol naturiol o'r ysgol feithrin i'r brifysgol. Datblygodd ac ehangodd y gyfadran yn gyflym o dan ei arweiniad a'i ysbrydiaeth. O 1966 i 1970 bu'n is-brifathro'r coleg, ac er mwyn canoli ei ynni ar gyfrifoldebau'r swydd honno rhoes i fyny, dros y ddwy fl. olaf, benaethiaeth yr adran addysg. Enillodd ei ddawn i drin pobl a'i ddoethineb yng ngweinyddiad y coleg edmygedd a chydweithrediad hapus myfyrwyr ac athrawon.

Ni chyfyngodd ei weithgarwch i derfynau campws y coleg, ond bu'n weithgar ar bwyllgorau cenedlaethol ar weithgareddau ieuenctid a gwasanaethau cyflogi pobl ieuainc. Yr oedd yn aelod gweithgar o'r Cydbwyllgor Addysg Gymreig, pwyllgor gwaith y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Addysgol, llywodraethwr y Coleg Cenedlaethol i Hyfforddi Arweinwyr Ieuenctid, cadeirydd y Pwyllgor Statud ar Gyflogi Ieuenctid, trysorydd Cynhadledd Sefydlog Astudiaethau Addysg, aelod o'r Comisiwn Llywodraeth Leol ar Ffiniau yng Nghymru o dan gadeiryddiaeth Syr Guildhaume Myrddin-Evans, aelod o Bwyllgor Orielau Celf Abertawe, aelod o Gyngor Cynghori'r Teledu Annibynnol ar Addysg, y Cyngor Darlledu i Ysgolion, Pwyllgor Cymreig Cyngor y Celfyddydau, a nifer o gyrff eraill. Bu'n arholydd allanol mewn addysg i nifer o brifysgolion Lloegr. Cyhoeddwyd ei ddarlith agoriadol, Educational Opportunity (1957); golygodd Pioneers of Welsh education (1954).

Ef oedd cadeirydd y Cyngor Canol ar Addysg (Cymru) a gomisiynwyd yn 1963 gan Syr Edward Boyle i fwrw golwg dros holl faes addysg elfennol yng Nghymru (ac ar yr un pryd yr oedd yn aelod o'r Cyngor cyfochrog o dan yr arglwydd Plowden yn Lloegr). Cyhoeddwyd adroddiad swmpus y Cyngor hwnnw yn Saesneg a Chymraeg mewn cyfrolau ar wahan. Teitl y fersiwn Gymraeg yw Addysg Gynradd Cymru (H.M.S.O., 1967), ond fel Adroddiad Gittins yr adweinir ef, ac y mae ei ddelw ef yn drwm ar y ddogfen bwysig hon yn hanes addysg Gymraeg sy'n cymeradwyo egwyddor cyfundrefn addysg ddwyieithog lwyr yn ysgolion Cymru ar yr ystyriaeth fod yr iaith Gymraeg yn allweddol bwysig yn y traddodiad hanesyddol Cymreig. Rhoddai bwys ar werth iaith aelwyd a chalon mewn addysg, a chredai'n ddiysgog yn yr egwyddor a ddysgodd yn ei ymchwil gynnar ar Condorcet fod addysg yn angenrheidiol i bawb a bod ar gymdeithas gyfrifoldeb i'w hestyn yn gyfartal i'w holl aelodau. Mynnai Gittins fod y diwylliant Cymraeg yn etifeddiaeth i holl blant Cymru a bod galw am addysg ddwyieithog lwyr i sicrhau fod yr etifeddiaeth yn eiddo iddynt oll. ' Adroddiad Gittins ' yw coron ei weithgarwch. Anrhydeddwyd ef drwy ei wneud yn C.B.E. yn 1968.

Priododd, 28 Rhagfyr 1934, Margaret Anne, merch John ac Eliza Mary (ganwyd Wheale) Lloyd yn eglwys Llanfaredd, Maesyfed. Bu iddynt fab a merch. Bu farw o ganlyniad i ddamwain ar fordaith bysgota ym Mae Oxwich ar 6 Awst 1970, ac ar ôl gwasanaeth yn Eglwys Llandeilo Ferwallt yng Ngŵyr amlosgwyd ei weddillion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.