GABE, RHYS THOMAS (REES THOMAS GAPE; 1880 - 1967), chwaraewr rygbi

Enw: Rhys Thomas Gabe
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1967
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr rygbi
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Gareth W. Williams

Ganwyd 22 Mehefin 1880 yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin. Bu'n chwarae'n lleol cyn cynrychioli Llanelli am y tro cyntaf yn 17 oed. Enillodd y cyntaf o'i 24 o gapiau (1901-8) ar yr asgell yn erbyn Iwerddon ar 21 Mawrth 1901. Fel canolwr y daeth i enwogrwydd. Meddai ar yr holl ddoniau; yn ddi-ildio'i amddiffyn, wrth ymosod rhedai'n syth a phenderfynol. Yn dwyllodrus, cadarn ac esgyrnog, yr oedd yn un o'r mwyaf anodd i'w daclo. Yn 1901 cychwynnodd ar gwrs i'w hyfforddi'n athro yng ngholeg Borough Road, Llundain, a chwaraeodd am gyfnod gyda'r Cymry yn Llundain. Ar ôl teithio i Awstralia gyda'r tîm Prydeinig yn 1904, dychwelodd i fod yn athro ysgol yng Nghaerdydd, a sgoriodd 51 cais mewn 115 gêm dros glwb y ddinas cyn rhoi'r gorau iddi yn 1908. Cyfrannodd yn allweddol at fuddugoliaeth hanesyddol Cymru (3-0) dros y Crysau Duon yn 1905, ac ynghyd ag Erith Gwyn Nicholls, William ('Willie') Morris Llewellyn ac Edward ('E.T.') Morgan ffurfiodd y llinell dri chwarter ddisgleiriaf a gynrychiolodd Gymru erioed. Bu farw 15 Medi 1967 yng Nghaerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.