Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



FREEMAN , KATHLEEN (‘ Mary Fitt ’; 1897 - 1959 ), clasurydd ac awdur ; g. yng Nghaerdydd 22 Meh. 1897 , unig blentyn Charles Henry Freeman , Birkenhead , a'i wraig Catharine (g. Mawdesley ) , Southport . Addysgwyd hi yn y Canton High School for Girls a Choleg Prifysgol De Cymru , Caerdydd , lle y graddiodd gyda B.A. yn y clasuron yn 1918 , ac ennill M.A. yn 1922 , a D.Litt. yn 1940 . Apwyntiwyd hi yn ddarlithydd mewn Groeg yn yr un coleg yn 1919 , a chyhoeddodd i ddechrau waith ymchwil clasurol a nifer o nofelau arbrofol. Bu bwlch pendant yn ei chyhoeddiadau rhwng 1929 ac 1936 . Pan ailgydiodd mewn cyhoeddi gwaith sylweddol, yr oedd dan wasgfa rhyfel, a'i hegnïon eraill erbyn hyn wedi eu cyfeirio tuag at ysgrifennu dros 20 o nofelau datgelu rhwng 1941 ac 1958 , a gyhoeddodd tan y ffugenw ‘ Mary Fitt ’. Yn ystod y rhyfel ( 1939-45 ) darlithiai ar ran y Weinyddiaeth Hysbysrwydd a chymerodd ran yng nghynllun addysgu'r lluoedd arfog yn ne Cymru . Ar galan Hyd. 1946 , a hithau'n ddarlithydd uwch yn ei hadran, ymddiswyddodd i ymroi i deithio, i waith ymchwil , ac i ysgrifennu . Yn 1951 etholwyd hi'n gadeirydd y Philosophical Society of Great Britain , a'r un flwyddyn derbyniwyd hi i'r Detection Club , anrhydedd a fawr chwenychir gan ysgrifenwyr nofelau datgelu . Bu f. yn 61 oed, 21 Chwef. 1959 , yn ei chartref yn Lark's Rise , Llaneirwg, Myn.

Fel Kathleen Freeman cyhoeddodd: The work and life o Solon ( 1926 ), The intruder and other stories ( 1926 ), Martin Hanner: A comedy ( 1926 ), Quarrelling with Lois ( 1928 ), This love ( 1929 ), It has all happened before, What the Greeks thought of their Nazis ( 1941 ), Voices of freedom ( 1943 ), What they said at the time: a survey of the causes of the second World War ( 1945 ), The murder of Herodes and other trials from the Athenian law courts ( 1946 ), Ancilla to the pre-Socratic philosophers, a complete translation of the fragments in Diel's Fragmente der Vorsokratiker ( 1946 ), The Greek way: an anthology ( 1947 ), sef cyfieithiadau o gerddi a rhyddiaith, The Philoctetes of Sophocles: a modern version ( 1948 ), Greek city states ( 1950 ), God, man and the state: Greek concepts ( 1952 ), The paths of justice ( 1954 ), The Sophists ( 1954 ) wedi ei gyfieithu o'r Eidaleg I sofisti , M. Untersteiner ( 1954 ), T'other Miss Austen ( 1956 ) ac If any man build: the history of the Save the Children Fund ( 1965 ) a ymddangosodd ar ôl ei marw.

Llyfryddiaeth:

  • Who was who? ;
  • Western Mail , 23 Chwef. 1959 ;
  • The Times , 24 Chwef. 1959 .

Awdur:

Roland Glyn Mathias, Aberhonddu