FOULKES, ANNIE (1877 - 1962), golygydd blodeugerdd

Enw: Annie Foulkes
Dyddiad geni: 1877
Dyddiad marw: 1962
Rhiant: Edward Foulkes
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: golygydd blodeugerdd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Bedwyr Lewis Jones

Ganwyd 24 Mawrth 1877 yn Llanberis, Sir Gaernarfon. Yr oedd ei thad Edward Foulkes (1850 - 1917), swyddog yn chwarel Dinorwig, yn ŵr o ddiwylliant llenyddol eang ac yn awdur nifer o ysgrifau yn y cyfnodolion Cymraeg ar lenorion Saesneg y 19eg ganrif : y mae gan Robert Williams Parry soned goffa iddo. Cafodd hi ei haddysg yn Ysgol Dr. Williams, Dolgellau, ac yn y Collège de Jeunes Filles yn Saumur, Ffrainc, 1896-97. Bu'n athrawes Ffrangeg yn Bray, Co. Wicklow, 1897, yn ysgol sir Tregaron 1898-1905, ac yn ysgol sir y Barri 1905-18. Yn 1918 penodwyd hi'n Ysgrifennydd Gweithredol Bwrdd Penodiadau Prifysgol Cymru, yn olynydd i Robert Silyn Roberts. Yn y Barri yr oedd hi'n aelod o gylch llengar a ymgasglodd o gwmpas Thomas Jones, C.H., a Silyn - y criw a oedd tu ôl i'r Welsh Outlook. Awgrymodd Thomas Jones fod angen blodeugerdd o farddoniaeth Gymraeg ddiweddar ac y dylai Annie Foulkes ei golygu. Ymddangosodd y flodeugerdd yn 1918 dan y teitl Telyn y dydd, yn un o gyfrolau ' Cyfres yr Enfys '. Bu'n boblogaidd iawn, yn enwedig yn yr ysgolion - cyhoeddwyd pedwerydd argraffiad yn 1929. Bu Annie Foulkes farw, yn ddibriod, yng Nghaernarfon 12 Tachwedd 1962 yn 85 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.