FOSTER, IVOR LLEWELYN (1870 - 1959), datganwr

Enw: Ivor Llewelyn Foster
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1959
Priod: Mary Ann Foster (née Jones)
Rhiant: Sarah Foster (née John)
Rhiant: Ebenezer Foster
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: datganwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Huw Williams

Ganwyd yn Tramroad, Pontypridd, 1 Mawrth 1870, mab i Ebenezer Foster a Sarah (ganwyd John) o Ben-y-graig, Rhondda, Morgannwg. Gadawodd yr ysgol yn 12 oed, a phan oedd yn 16, ac mewn masnach gyda'i ewythr, William Richards, Dinas, Rhondda, y dechreuodd astudio hen nodiant yn ei oriau hamdden, a chystadlu mewn eisteddfodau. Enillodd ar ganu yn eisteddfod flynyddol y Porth yn 1892, 1893 ac 1894, a dwywaith ar yr unawd baritôn yn yr Eisteddfod Genedlaethol (Caernarfon 1894 a Llanelli 1895). Yn dilyn ei lwyddiant yn Llanelli trefnodd rhai o'i gyfeillion yn y Rhondda gyngherddau i'w gynorthwyo i gael addysg gerddorol; aeth i'r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, ym mis Mai 1896, a bu yno am bedair blynedd yn astudio gyda Henry Blower (llais), James Higgs (cynghanedd) a Villiers Stanford (opera). Enillodd dlws aur yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn y coleg, a chyn terfyn ei gwrs yno dywedai Syr Hubert Parry mai ef oedd un o'r baritoniaid gorau a fu'n astudio yn y coleg. Portreadodd y cymeriad Don Pedro mewn perfformiadau o opera Stanford Much ado about nothing yn Covent Garden yn 1901. Yn ddiweddarach, bu'n canu yn y cyngherddau promenâd ac yng nghyngherddau baledi Boosey yn Llundain, ac ymddangosodd am 27 o dymhorau'n olynol yng nghyngherddau'r Royal Albert Hall. Canodd hefyd mewn gwyliau cerddorol, gan gynnwys gŵyl Caerdydd (deirgwaith), a recordiodd ganeuon Cymraeg ar label Winner. Ar ôl ymneilltuo o waith cyhoeddus ymsefydlodd fel athro canu.

Priododd, 29 Mai 1897, â Mary Ann Jones, Tonypandy (bu hi farw 1971). Bu farw yn ei gartref ym Mhorth-cawl 29 Mawrth 1959, ac amlosgwyd ei gorff yn Llanisien, Caerdydd. Yn 1962 cyfrannodd ei deulu £300 er mwyn sefydlu gwobr goffa yn dwyn ei enw yn y cystadleuthau i faritôn agored ac i faritôn dan 25 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.