Cyhoeddodd nofel, One has been honest ( 1930 ), a cherddi a storïau yn The Adelphi ac yn The Twentieth century yn y tridegau; yna troes at y ddrama a pherfformiwyd The disinherited o'i waith yn Theatr Fach Abertawe yng Ngorff. 1939 . Ymunodd â'r llynges adeg y rhyfel a thra oedd yn Ynys yr Iâ ymroes i ddysgu Cymraeg o lyfryn Caradar . O hyn allan ar gyfansoddi dramâu yn Gymraeg yr oedd ei fryd. Ysgrifennodd nifer o ddramâu byrion: Y Lleoedd pell ( 1945 ), Y Blaidd-ddyn ( 1945 ), Awena ( 1945 ), Harri ddewr , a Morwyn y môr ( 1952 ), a thair drama hir: Catrin (a enillodd iddo wobr am ddrama hir yn Eist. Gen. Dolgellau 1949 ), Y Ferch a'r dewin ( 1958 ) (a oedd yn gyd-fuddugol yn Eist. Gen. y Rhyl 1953 ), a Merch yw Medusa ( 1951 ). Cyfieithodd hefyd ddrama Andre Obey , Noa ( 1951 ). Eithr pennaf gyfraniad F.G. Fisher oedd mynnu cartref sefydlog i Gymdeithas Ddrama Llangefni , a thrwy hynny greu'r Theatr Fach a agorodd ym Mhencraig , Llangefni , ym Mai 1953 . Yno cafodd fod yn gyfarwyddwr theatr a gwireddu ei freuddwyd am theatr amatur yn cyflwyno dramâu yn gyson yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ôl safonau cwbl broffesiynol.
Bedwyr Lewis Jones (1933-92), Bangor