Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , JOHN VICTOR ( 1895 - 1957 ), bargyfreithiwr ; g. 7 Hyd. 1895 , yng Nghwmdâr , Aberdâr, Morg. , mab Henry Howard Evans ( rheolwr cyffredinol glofeydd Y Cambrian a lleygwr amlwg gyda'r Bedyddwyr ) a Mary Ann Evans ei wraig, a fu f. ychydig ar ôl geni ei hunig blentyn. Addysgwyd ef mewn ysgol elfennol yng Nghwmdâr a Choleg Crist , Aberhonddu . Yn Rhyfel Byd I bu'n gwasanaethu yn y fyddin yn yr Aifft , Ffrainc , a Phalesteina . Wedi dychwelyd ymaelododd yng Ngholeg Crist , Rhydychen , ac astudio hanes a graddio yn yr ail ddosbarth yn 1922 . Disgleiriodd yng nghymdeithas ddadlau'r Undeb yn Rhydychen , ac etholwyd ef yn olynol yn ysgrifennydd , llyfrgellydd iau , a llywydd (yn 1922 ). Bu hefyd yn llywydd Cymd. Dafydd ap Gwilym . Galwyd ef i'r bar yn 1924 . Yr oedd yn areithiwr huawdl , ac yn etholiad 1929 bu'n ymgeisydd Rhyddfrydol dros Bontypridd , a dod yn ail o dri gan gasglu 37% o'r bleidlais. Gwnaeth ymgais arall i fynd i'r senedd mewn is-etholiad ym Merthyr Tudful yn 1934 , pryd y daeth yn ail i S.O. Davies , o bedwar o ymgeiswyr, gyda phleidlais o dros ddeng mil.

Yn 1930 penodwyd ef yn ddarlithydd yn adran y gyfraith yng Ngholeg y Brifysgol yn Aberystwyth , ond ymddeolodd yn 1935 i ailgydio yn ei alwedigaeth fel bargyfreithiwr . Yr oedd ganddo argyhoeddiadau crefyddol cryf a chydwybod gymdeithasol, a theimlai awydd i wneud rhywbeth i liniaru cyni'r di-waith yn y de, ac yn 1936 derbyniodd swydd warden sefydliad addysgol Aberdâr , Coleg Gwerin Cynon , dan nawdd y Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol . Pr. yn Ebr. 1927 Katherine Mary , merch Henry Dawson , Streatham , Llundain . Ganwyd iddynt un plentyn a fu f. yn ddisymwth yn 1938 . Buasai'n hapus iawn yn ei waith yn Aberdâr , ond bu colli ei fab yn ergyd drom iddo. Ymddeolodd yn 1939 a dychwelodd i Lundain , a derbyn swydd yn y weinyddiaeth Economic Warfare . Parhaodd yn y gwasanaeth sifil ar ôl y rhyfel, a gorffen ei yrfa yn y weinyddiaeth Gyflenwi . Bu f. yn ei gartref yn Dulwich Village , 15 Mai 1957 .

Mae'n wir na chyflawnodd, ar lawer ystyr, ei addewid gynnar. Yr oedd hynny i'w briodoli i raddau helaeth i freuder ei iechyd mewn canlyniad i'w glwyfau yn y rhyfel. Gordrethodd ei hunan drwy geisio cyflawni mewn gwleidyddiaeth a'r gyfraith fwy nag a allai ei gorff ei ddal.

Llyfryddiaeth:

  • B. B. Thomas , Y Ddinas , Gorff. 1957 ;
  • Aberdare Leader , 8 Chwef. 1936 ;
  • Mynegai Bywgraffyddol W.W. Price (yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Gyhoeddus Aberdâr) .

Awdur:

Walter Thomas Morgan (1912-90), Aberystwyth