Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , JOHN ( 1858 - 1963 ); gweinidog (A) ac athro yn y Coleg Coffa, Aberhonddu ; g. 12 Mai 1858 yn Erwan Fach , Llangrannog, Cer. , yn fab David ac Eleanor Evans . Ychydig o addysg ffurfiol a gafodd yn ei febyd ond gwyddys iddo gael ysbaid yn ysgol ‘ Cranogwen ’ ( Bywg. , 780) ym Mhontgarreg . Ar ôl etholiad cyffredinol 1868 trowyd ei deulu allan o'u cartref am fod y tad wedi pleidleisio i'r ymgeisydd Rhyddfrydol , a symudwyd i ffermdy Pant-teg yng nghyffiniau'r Ceinewydd . Pan oedd yn ddeuddeg oed derbyniwyd ef yn brentis gan siopwr yn Llangrannog . Wedi 3 bl. yno aeth i weithio mewn siop groser a dilledydd yng Nghendl, Gwent . Tuag 1877 penderfynodd ymgynnig i'r weinidogaeth a phregethodd am y tro cyntaf yng nghapel Maen-y-groes ger y Ceinewydd . Aeth i ysgol a gedwid gan C.H. Hughes yn festri capel Tywyn (A) , Ceinewydd , ac yn 1881 ef oedd y cyntaf o'r ysgol honno i gael ei dderbyn i Brifysgol Llundain . Aeth i Goleg Newydd , Llundain , lle yr oedd Samuel Newth yn brifathro , i ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth, gan ennill gradd B.A. yn 1884 a'r A.T.S. yn 1886 . Bu'n athro cynorthwyol yn ysgol Watcyn Wyn ( Bywg. , 1011-12) yn Rhydaman nes cael ei wahodd i weinidogaethu yn eglwysi Castell Paen a Rhos-goch, Maesd. , yn 1887 . Oddi yno symudodd i Aberhonddu i ofalu am eglwys Saesneg Glamorgan Street yn 1894 . Ar ôl marwolaeth John Morris ( Bywg. , 621-2) , prifathro 'r Coleg Coffa yn y dref honno, yn 1896 , cafodd ei wahodd (ac yntau'n parhau i fugeilio'r eglwys) i ddarlithio ar yr Hebraeg am dipyn yno. Pan sefydlwyd y gyfadran ddiwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru cafodd ei wahodd i ddarlithio ar hanes yr Eglwys am flwyddyn yn 1901 ac adnewyddwyd y gwahoddiad yn flynyddol nes ei benodi'n athro llawn yn 1905 a'i wneud yr un pryd yn ysgrifennydd ariannol y coleg (hyd 1942 ). Arhosodd yn ei gadair nes ymddeol yn 1943 a chael y teitl Athro Emeritus .

Derbyniodd ddulliau ysgolheictod modern wrth drin y Beibl a hanes Cristionogol. Gellir dirnad ei ryddfrydiaeth ddiwinyddol yn ei esboniad ar Epistol Cyntaf Paul at y Corinthiaid ( 1926 ). Cyfrannodd lith am Annibyniaeth yng nghyffiniau Castell Paen a'r Gelli at y gyfrol The history of Congregationalism in Breconshire and Radnorshire (gol. Joseph Jones ; 1912 ) ac yr oedd ymhlith y cyfranwyr at Llyfr Gwasanaeth yr Annibynwyr ( 1926 ). Cyfrannai hefyd i Y Tyst ac Y Dysgedydd . Yr oedd yn gadeirydd bwrdd llywodraethwyr ysgol ramadeg Aberhonddu , 1921-31 . Trwy ei ffydd dawel a mwynder ei bersonoliaeth cafodd ei ystyried yn ‘ŵr Duw’ di-uchelgais a digenfigen y coleg. Gwyddai pawb am ei hoffter o Aberhonddu a Brycheiniog ac yn 1957 anrhydeddwyd ef â rhyddfreiniad y fwrdeistref . Pregethodd am y tro olaf yng nghapel Tredomen , ger Aberhonddu , 11 Tach. 1962 . Yr oedd yn ddibriod. Bu f. ddydd Calan 1963 yn ei lety yn Aberhonddu , ei gartref am lawer o flynyddoedd. Ymhen ychydig fisoedd buasai wedi cyrraedd 105 oed. Claddwyd ef ar adeg o eira mawr ym mynwent gyhoeddus y dref.

Llyfryddiaeth:

  • The Congregational Year Book , 1846 ff , 1963-4 ;
  • Blwyddiadur yr Annibynwyr Cymraeg , 1964 ;
  • adroddiadau'r Coleg Coffa, 1896-7 , 1901-6 , 1942-3 ;
  • Pennar Davies (gol.), Athrawon ac Annibynwyr , 1971 ( 1971 ), 20-30;
  • gwybodaeth gan D.W. Godfrey Evans, Llandysul ,
  • a Thomas Richards, Aberhonddu ;
  • adnabyddiaeth bersonol.

Awdur:

William Thomas Pennar Davies (1911-96), Abertawe