EVANS, EBENEZER GWYN (1898 - 1958), gweinidog (MC)

Enw: Ebenezer Gwyn Evans
Dyddiad geni: 1898
Dyddiad marw: 1958
Priod: Enyd Jane Evans (née Jones)
Rhiant: Gwenllian Evans
Rhiant: Benjamin Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 31 Mai 1898 yng Ngellilenor Fawr, Llangynwyd, Morgannwg, mab ieuangaf Benjamin a Gwenllian Evans - y fam o gyff Dafydd Morris yr Hendre (1787 - 1858). Addysgwyd ef yn ysgol elfennol ac ysgol sir Maesteg, ac ar ôl dechrau gweithio ar fferm ei dad bu'n athro ysgol am dymor. Ymunodd â'r fyddin yn ystod Rhyfel Mawr I, ac ar ddiwedd y rhyfel aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth (lle graddiodd gydag anrhydedd mewn athroniaeth) a dechrau pregethu. Gorffennodd ei addysg yng ngholegau diwinyddol Aberystwyth a'r Bala. Ordeiniwyd ef yn 1927, a bu'n gweinidogaethu yn Rock Ferry (1927-30), Cathedral Road, Caerdydd (1931-36), Trinity, Abertawe (1936-39) a Charing Cross Road, Llundain (1939-58). Priododd, 1927, Enyd Jane Jones, merch Edward Jones ('Iorwerth Ddu'), Maesteg, a ganed dau fab o'r briodas. Bu farw 23 Gorffennaf 1958.

Yr oedd yn bregethwr coeth a grymus, yn Saesneg ac yn Gymraeg, ac o'r herwydd bu galw mawr am ei wasanaeth yn ne a gogledd Cymru. Bu'n gadeirydd Undeb Eglwysi Rhyddion Lloegr a Chymru (1957-58). Ysgrifennodd i'r Goleuad ac i'r Drysorfa, ac yn 1951 cyhoeddodd hanes eglwys Charing Cross Road dan y teitl Y ganrif gyntaf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.