EVANS, ERNEST (1885 - 1965), barnwr llysoedd sir, A.S.

Enw: Ernest Evans
Dyddiad geni: 1885
Dyddiad marw: 1965
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: barnwr llysoedd sir, A.S.
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn Aberystwyth, Ceredigion, 17 Mai 1885, mab Evan Evans, clerc cyngor sir Aberteifi, a'i wraig, Annie (ganwyd Davies). Cafodd ei addysg yng Ngholeg Llanymddyfri, C.P.C., Aberystwyth (c. 1902-05), Neuadd y Drindod, Caergrawnt (LL.B.), lle y bu'n llywydd yr Undeb yn 1909, galwyd ef i'r Bar yn 1910, a bu'n gweithredu yn Llundain ac ar gylchdaith De Cymru. Gwasanaethodd yn Ffrainc yn Rhyfel Byd I gyda'r R.A.S.C. a chyrraedd rheng capten. O Dach. 1918 i Rag. 1920 bu'n ysgrifennydd preifat i David Lloyd George. Yn 1921 wedi dyrchafu M.L. Vaughan Davies i Dŷ'r Arglwyddi fel yr Arglwydd Ystwyth o Dan-y-bwlch, Tori rhonc a fu'n A.S. dros sir Aberteifi fel Rhyddfrydwr o 1895, cafodd gefnogaeth Lloyd George i ymladd is-etholiad am sedd y sir yn erbyn William Llewelyn Williams, dewis-ddyn Rhyddfrydwyr traddodiadol y sir. Wedi brwydr ffyrnig, a rwygodd rengoedd Rhyddfrydwyr sir Aberteifi am flynyddoedd, enillwyd y sedd gan Ernest Evans. Yn etholiad cyffredinol 1922 aeth ei fwyafrif i lawr i 515 mewn gornest yn erbyn Rhys Hopkin Morris dros y Rhyddfrydwyr Annibynnol. Yn etholiad cyffredinol 1923 collodd y sedd i Rhys Hopkin Morris mewn gornest dri chornel, gydag Iarll Lisburne yn ymladd dros y Ceidwadwyr. Yn 1924 enillodd sedd Prifysgol Cymru yn erbyn George M.Ll. Davies, yr ymgeisydd Llafur, ac fe'i daliodd hyd 1942. Gwnaethpwyd ef yn K.C. yn 1937, a daliodd swydd barnwr llysoedd sir o 1942 i 1957, pan ymddeolodd. Bu'n aelod o gyngor Ll.G.C. ac yn is-lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Cyfraith amaethyddol oedd ei brif bwnc. Cyhoeddodd gyda Clement Edward Davies An epitome of agricultural law (1911), ac ef ei hun Elements of the law relating to vendors and purchasers (1915), ac Agricultural holdings and small holdings Act.

Priododd, yn 1925, Constance Anne, merch Thomas Lloyd, dilledydd, Hadley Wood a'i mam erbyn hynny yn weddw ac yn briod â J.T. Lewis, Llundain a Llannarth, Ceredigion. Bu iddynt dri mab. Bu farw, 18 Ionawr 1965, yn ei gartref, Traethgwyn, Ffordd Tymawr, Deganwy, Sir Gaernarfon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.