EVANS, DAVID (1886 - 1968), Athro prifysgol yn yr Almaeneg ac awdur

Enw: David Evans
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1968
Priod: Margaret Evans (née James)
Rhiant: Elizabeth Evans
Rhiant: John Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Athro prifysgol yn yr Almaeneg ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd 18 Tachwedd 1886 yn ardal Blaen-ffos, Penfro, yn fab i John Evans (bu farw 18 Ionawr 1914 yn 81 mlwydd oed) ac Elizabeth ei wraig (bu farw 30 Ionawr 1937 yn 86 mlwydd oed) o Fwlchnewydd, plwyf Castellan. Addysgwyd ef yn ysgol sir Aberteifi, lle'r oedd yr Almaeneg ar y pryd yn rhan amlwg o'r maes llafur, ac ar ôl cyfnod diffrwyth o ffermio gartref derbyniwyd ef yn 1907 i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Graddiodd gydag anrhydedd yn yr Almaeneg yn 1910, ac ar ben dwy fl. arall enillodd radd M.A. Symudodd wedyn yn lektor Saesneg yn ogystal â myfyriwr ym Mhrifysgol Berlin, a dod yn gydnabod yno i'r ysgolhaig Celteg Kuno Meyer. Yno yr oedd yn gweithio pan gyhoeddwyd Rhyfel Byd I yn 1914, ac yno y cadwyd ef am y pedair blynedd nesaf yn un o ryw bum mil o garcharorion sifil ar safle moethus maes rasys ceffylau Ruhleben. Ei brif ddiddordeb yno oedd Ysgol y Gwersyll a gychwynnwyd yn gynnar yn 1915, lle bu'n bennaeth astudiaethau Celteg ac at hynny, er mawr ddifyrrwch iddo yn nes ymlaen, yn llywydd Cymdeithas y Gwyddelod. Un o'i ddisgyblion yno ar y dechrau a chynorthwyydd wedi hynny oedd Ifor Leslie Evans a benodwyd yn 1934 yn Brifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth.

Am gwta tri mis ar ôl ei ryddhau bu'n athro ysgol yn Wrecsam ac yna'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Birmingham, hyd nes ei benodi 24 Medi 1920 yn Ddarlithydd Annibynnol a Phennaeth Adran yn Aberystwyth. Er gwaethaf atgasedd y cyfnod at yr Almaen a'i phobl, llwyddodd ef i fagu adran arbennig o fywiog a daeth ei enw yn symbol mor gyfarwydd o'r bri newydd ar yr iaith nes cymell y coleg yn 1936 i sefydlu cadair yn y pwnc a'i ddyrchafu yntau yn Athro. Yn y swydd hon yr arhosodd hyd ei ymddeol yn 1952 a'i ddynodi yn Athro Emeritws.

Yn ogystal â chyfieithu Detholiad o chwedlau Grimm (1927) a Detholiad o storïau Andersen (1921, 1931) ynghyd â dramâu gan Herman Heijermans (Ahasfer; Y Gobaith da) ac Anatole France (Y gwr a briododd wraig fud), cyfrannodd liaws o ysgrifau ar addysg, crefydd a phroblemau cyfoes a llenyddiaeth yr Almaen i gylchgronau Cymreig. Cyhoeddodd A simplified German Grammar (1948), Gofyniadau ac atebion i Lythyr Cyntaf Paul at y Corinthiaid (1926), ond ei gyhoeddiad pwysicaf a ddaeth ag ef i amlygrwydd cyffredinol oedd Y wlad: ei bywyd, ei haddysg, a'i chrefydd (1933), arolwg dreiddgar o werthoedd sylfaenol y bywyd cefngwlad (iddo ef cylch y Frenni Fawr) ac astudiaeth y bu galw am ail argraffiad ohoni cyn diwedd y flwyddyn, hynny'n rhannol oherwydd clodfori'r gwaith i'r entrychion gan David Lloyd George, yn ei araith yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Bu'n weithgar iawn yng Ngholeg Aberystwyth lle y bu'n bennaf gyfrifol am gychwyn y cynllun gofal meddygol cyntaf i fyfyrwyr i'w sefydlu yn holl brifysgolion Prydain Fawr. Bu'n llywydd Cymdeithas y Cynfyfyrwyr yn 1952, ac yn gynrychiolydd y Cyngor Prydeinig yn Aberystwyth am flynyddoedd lawer. Yr oedd yn Fedyddiwr cwbl ddigyfaddawd, ac yn aelod, diacon ac athro Ysgol Sul yn eglwys Bethel, Aberystwyth.

Priododd, 30 Rhagfyr 1920, â Margaret James o Landeilo, ei thad yn Arolygydd Ysgolion Cynradd yn Sir Gaerfyrddin a'i mam wedi bod yn aelod o ' Gôr Mawr ' Griffith Rhys Jones ('Caradog'). Gwraig radd oedd ei briod hithau o Goleg Aberystwyth yn 1910, ac erbyn cwrdd â David Evans yn Birmingham wedi ei phenodi yn athrawes Ffrangeg yn ysgol ramadeg y merched, Halesowen. Yn ystod ei thymor hi yn Aberystwyth bu hi'n weithgar dros amryw o achosion da, e.e. Cyfeillion yr Ysbyty a'r R.S.P.C.A. Ganed o'r briodas ddau fab a merch. Bu ef farw 26 Hydref 1968 yn Ysbyty Bron-glais yn y dre a'i gladdu ym mynwent ei fam-eglwys ym Mlaen-ffos. Bu hithau farw 29 Tachwedd 1973 yn 84 mlwydd oed yng nghartref ei merch yn Camberley a'i chladdu yn Aldershot.

Gwr hoffus ei anian oedd David Evans, diysgog ei egwyddorion a llafar ei farn, ond heb fod ar brydiau'n gaeth i gonfensiwn. Gwir y dywedodd y Prifathro Thomas Parry ddydd ei angladd 'in spite of the infinite variety of human nature, there will never be anybody exactly like David Evans'.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.