ELLIS, ROBERT MORTON STANLEY (1898 - 1966), gweinidog (MC) ac awdur

Enw: Robert Morton Stanley Ellis
Dyddiad geni: 1898
Dyddiad marw: 1966
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 11 Ebrill 1898 mewn bwthyn bychan ar lan y môr rhwng y Gronant a Phrestatyn, Fflint, mab John Edward ac Emma Ellis. Mudodd ei rieni i Birmingham, ac oddi yno i'r Wyddgrug, ac i Ddinbych, gan lanio yn y diwedd (1905) yng Nglanaman, Sir Gaerfyrddin. Gadawodd ysgol y Garnant pan oedd yn 12 mlwydd oed, a dechreuodd weithio mewn siop, yna mewn glofa ac wedi hynny mewn gwaith tun. Magwyd ef yn Annibynnwr, ond ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd ym Methania, Glanaman, gan ddechrau pregethu yno. Addysgwyd ef ar gyfer y weinidogaeth yn ysgol ramadeg Castellnewydd Emlyn ac yng ngholegau'i gyfundeb yn Aberystwyth a'r Bala. Ordeiniwyd ef yn 1925, a'r un flwyddyn priododd Martha Maud Davies o Frynmyrnach, Llanfyrnach, Penfro. Bu'n gweinidogaethu yn eglwysi Abermeurig a Bwlch-y-llan, Ceredigion (1925-27), Saron, Llanbadarn Fawr yn yr un sir (1927-30), a Chaersalem, Tŷ-croes, ger Rhydaman, (1930-66) - bu'n gofalu hefyd am dymor am eglwys Ebeneser, Llanedi. Yn ystod ei dymor yn Nhŷ-croes dilynodd gwrs yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, gan raddio yn y celfyddydau. Etholwyd ef yn llywydd Sasiwn y De yn 1965.

Yr oedd Robert Ellis yn adnabyddus ledled Cymru fel pregethwr ac fel darlithydd yn arbennig. Darlithiai ar destunau megys ' Utgyrn Seion ', ' Joseph Jenkins ' a ' Philip Jones ', ac yr oedd ganddo ddawn neilltuol i ddynwared ei arwyr. Am bregethwyr hefyd y mae ei lyfrau: Living echoes (1951), Doniau a daniwyd (1957), a Lleisiau ddoe a heddiw (1961). Yn 1963 cyhoeddodd hunangofiant difyr dan y teitl Wrth gofio'r daith. Bu farw 29 Tachwedd 1966, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Caersalem, Tŷ-croes.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.