EDWARDS, FANNY WINIFRED (1876 - 1959), athrawes, llenor plant a dramodydd

Enw: Fanny Winifred Edwards
Dyddiad geni: 1876
Dyddiad marw: 1959
Rhiant: Jane Edwards (née Roberts)
Rhiant: William Edwards
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: athrawes, llenor plant a dramodydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio
Awdur: Arwyn Lloyd Hughes

Ganwyd 21 Chwefror 1876 ym Mhenrhyndeudraeth, Meirionnydd, yn chwaer i'r bardd Gwilym Deudraeth a'r ieuengaf o'r deuddeg plentyn a aned i William Edwards, master mariner, a'i wraig Jane (ganwyd Roberts). Addysgwyd hi yn ysgol elfennol Penrhyndeudraeth lle y bu wedyn fel disgybl-athrawes ac yna'n athrawes hyd nes iddi ymddeol fis Rhagfyr 1944 ar ôl cyfnod o dros hanner canrif o wasanaeth.

Sylweddolodd o'i dyddiau cynnar fel athrawes fod prinder dybryd o lenyddiaeth addas yn y Gymraeg ar gyfer plant, a hyn a barodd iddi gychwyn ysgrifennu storïau byrion i'w darllen i'w disgyblion. Digwyddodd (Syr) O.M. Edwards ei chlywed wrth ei gwaith pan oedd ar ymweliad â'r ysgol a mynnodd ganddi gyhoeddi'r storïau hyn. Yr anogaeth hon a esgorodd ar ei gyrfa lwyddiannus iawn fel llenor plant - gyrfa a barhaodd yn ddi-fwlch am yn agos i 60 mlynedd. Cyhoeddodd gyfanswm o dros 150 o storïau yn Cymru'r Plant yn unig yn gyson o 1902 ymlaen. (Ymddangosodd ei dwy nofel fer, Cit (1908) a Dros y gamfa (1926), yn wreiddiol fel storïau cyfres yn y misolyn hwnnw). Cyfrannodd hefyd i Cymru (O.M.E.), Y Drysorfa, Y Winllan a chyhoeddiadau enwadol eraill. Cyhoeddodd bum llyfryn: Dadleuon buddugol (1925); Adroddiadau i fabanod (1934); Alsi a'r Tylwyth Teg a storïau eraill (1951); Ding Dong Ding - chwaraeon ac adroddiadau i blant (1951) a Siani Lwyd - chwaraeon ac adroddiadau i blant (1951). Meddai ar ddawn naturiol y gwir storïwr ac yn ddi-ddadl llanwodd ei llu cyhoeddiadau fwlch mawr ym myd ysgrifennu yn Gymraeg ar gyfer plant am flynyddoedd lawer. Cyhoeddodd hefyd 17 o ddramâu byr, un act, y mwyafrif ohonynt ar gyfer plant: Tŷ Anti Melvina (1931); Drama Meredydd (1931); Neli a'i thegannau (1931); Y Te parti (1931); Dewis het (1932; cyfieithwyd i'r Saesneg gan Margaret Rosser, 1951); Gwarchod (1932); Y Darlun (1933); Ail feddwl (1935); Y Bastai (1936); Cofio doe (1942); Y Spectol (1942); Y Newydd (1943); Tynnu llun (1945); Chwarae teg (1947); Cyllell boced Tomi (d.d); Y Tecell copr (1950); Bocs tin (1950). Enillodd ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol a bu'n feirniad ei hunan yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau, 1949. Cynhwysodd T.H. Parry-Williams stori o'i heiddo yn ei gyfrol Ystorïau heddiw (arg. cyntaf 1938). Cyflwynwyd ' Gwobr Goffa Syr O.M. Edwards ' iddi yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 1951, i gydnabod ei gwasanaeth nodedig a diflino i Urdd Gobaith Cymru a thros lenyddiaeth Gymraeg i blant. Rhoddodd wasanaeth ffyddlon yn yr un modd i eglwys Nasareth (MC), Penrhyndeudraeth, ac yn arbennig i'r Ysgol Sul yno ar hyd ei hoes. Bu'n weithgar hefyd gydag Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru. Yr oedd yn aelod o gyngor Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd hyd ei marwolaeth a chyhoeddodd yn ei Cylchgrawn (1951).

Ni bu'n briod. Bu farw yn Ffestiniog 16 Tachwedd 1959 a chladdwyd hi ym mynwent Nasareth, Penrhyndeudraeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.