Wedi marw ei dad teimlodd fod rheidrwydd arno i gymryd at y gwaith o olygu Cymru ( 1920-27 ) a Cymru'r Plant ( 1920-50 ), gan gychwyn atodiad iddo — Cronicl yr Urdd ( 1928-33 ) — yn ogystal â chylchgrawn i ieuenctid, Y Capten ( 1931-32 ). Ei lythyr yn rhifyn Ion. 1922 o Cymru'r Plant oedd cychwyn Urdd Gobaith Cymru (Fach) . Yr oedd yn weledydd a realydd; yn arweinydd a chanddo'r ddawn i ennill pob math o bobl i'w gefnogi a noddi ei gynlluniau blaengar ac uchelgeisiol. Cychwynnodd wersyll gwyliau yn Llanuwchllyn yn 1928 ; yn ddiweddarach cafwyd safleoedd mwy parhaol yn Llangrannog ( 1932 ) a Glan-llyn ( 1950 ). Cychwynnodd eist. flynyddol yr Urdd yn 1929 ; ei mabolgampau yn 1932 ; mordaith bleser yn 1933 ; gwersyll i ddysgwyr yr iaith a chynghrair pêldroed i chwarae am gwpan yr Urdd yn 1941 ; gwersyll cydwladol yn 1948 ; a gwersyll Celtaidd yn 1949 . Yr un flwyddyn agorwyd Pantyfedwen yn Y Borth, Cer. , fel canolfan breswyl i gynnal cyrsiau difyr ar bob math o bynciau y manteisiodd miloedd o ieuenctid ac oedolion arnynt. Derbyniai ddyfeisiadau newydd i'w defnyddio orau ag y medrai er lles Cymru . Tynnai luniau â'i gamera o weithgarwch yr Urdd a dangos sleidiau yn y pentrefi yn ystod y gaeaf; yn 1935 , gyda chymorth J. Ellis Williams , gwnaeth y ffilm (rannol lwyddiannus) lafar Gymraeg gyntaf, Y Chwarelwr , ar gyfer sinema deithiol; a bu'n gyfarwyddwr cwmni Teledu Cymru a'r Gororau ( T.W.W. ), gan ddylanwadu o blaid y Gymraeg ar aelodau'r bwrdd. Trwy ei ymdrechion ef yr agorwyd yr Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth yn 1939 . Ar waethaf pob beirniadaeth ystyriai mai hon oedd y fenter fwyaf llwyddiannus a gwerthfawr y bu'n gysylltiedig â hi. Yn ogystal â'r cylchgronau a enwyd, golygodd A catalogue of Star Chamber proceedings relating to Wales ( 1929 ), a rydd ryw syniad o'r maes y buasai wedi dymuno gweithio ynddo pe na bai wedi ymdynghedu i roi o'i orau i'r Urdd . Yr oedd yn gyd-awdur Llyfr y bobl bach ( 1925 ) gydag E. Tegla Davies (gw. uchod) ; awdur Yr Urdd 1922-43 ( 1943 ); hunangofiant bychan Clych atgof ( 1961 ); a nifer o erthyglau yn cynnwys ‘ The Welsh language, its modern history and its present-day problems ’ yn Hesperia , 1951 , 39-57. Rhoddodd wasanaeth arbennig i lu o sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru a Llundain . Bu'n ynad hedd ( 1941-58 ) a gweithiodd yn galed gyda Mudiad Senedd i Gymru ar ddechrau'r 1950au . Urddwyd ef yn farchog yn 1947 ; yn 1956 cyflwynwyd iddo gan yr Urdd ddarlun olew ohono'i hun gan Alfred Janes , a medal aur gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ; a LL.D. er anrh. gan Brifysgol Cymru yn 1959 .
Pr., 18 Gorff. 1923 , ag Eirys Mary Lloyd Phillips , Lerpwl , a chartrefu yn Neuadd Wen , Llanuwchllyn hyd 1930 , ac yn Aberystwyth o hynny ymlaen. Ganed iddynt ddau fab, Owen a Prys . Bu f. yn ei gartref, Bryneithin , 23 Ion. 1970 a'i gladdu yn Llanuwchllyn .
Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth.