Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EDWARDS , NESS ( 1897 - 1968 ), undebwr llafur ac aelod seneddol ; g. 5 Ebr. 1897 . Dechreuodd weithio yn y lofa pan oedd yn 13 ml. oed a phan oedd yn 18 ml. oed fe'i hetholwyd yn gadeirydd Cyfrinfa Glofa Vivian . Ymaelododd â'r Blaid Lafur Annibynnol yn 1915 a thrwy honno daeth i gysylltiad â'r No Conscription Fellowship ; gwrthododd ymuno â'r lluoedd arfog ac o ganlyniad fe'i carcharwyd yn 1917 . Aeth i Lundain i'r Central Labour College yn 1919 lle bu'n gyd-fyfyriwr ag Aneurin Bevan (gw. uchod) a James Griffiths . Fe'i penodwyd yn 1927 yn ysgrifennydd amser-llawn i Gyfrinfa Glofa Penallta ac yn 1932 yn gynrychiolydd glowyr dwyrain Morgannwg . Yn 1938 daeth yn aelod o gyngor Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr , gan gynrychioli Ffederasiwn Glowyr Deheudir Cymru ar y corff hwnnw. Flwyddyn yn ddiweddarach, yn dilyn marwolaeth Morgan Jones , fe'i hetholwyd yn aelod seneddol Llafur Caerffili ac fe gadwodd ei afael ar y sedd yn yr etholiadau cyffredinol canlynol o 1945 i 1966 , gan ennill ym mhob un ohonynt dros saith deg y cant o'r bleidlais. Bu'n wrthwynebydd tanbaid i ffasgiaeth: beirniadodd Gytundeb Munich yn hallt, trefnodd i lowyr gwrth-Natsïaidd o'r Sudetenland ffoi o'r Almaen yn 1939 , ymwelodd â gwersyll Buchenwald yn 1945 a chynrychiolodd lowyr Prydain yn seremoni dadorchuddio'r gofeb i bentrefwyr Lidice yn Tsiecoslofacia . Fe'i hetholwyd yn ysgrifennydd grwp seneddol y glowyr yn 1942 ac yn gadeirydd grwp seneddol yr undebwyr llafur yn 1964 .

Yn dilyn buddugoliaeth y Blaid Lafur yn 1945 , cafodd swydd ysgrifennydd seneddol i'r Gweinidog Llafur . Y weinyddiaeth honno oedd â'r cyfrifoldeb o arolygu'r symudiad o'r lluoedd arfog i alwedigaethau sifil wedi'r rhyfel ; cyflawnwyd hyn mewn modd llyfnach o lawer yn 1945-46 nag yn 1918-19 a pherthyn cryn dipyn o'r clod am hynny i Ness Edwards . Dyrchafwyd ef i'r Cyfrin Gyngor yn 1948 . O 1950 i 1951 yr oedd yn Bost-feistr Cyffredinol ac yn y swydd honno bu'n gyfrifol am gyflwyno'r telegram cyfarchion . Yn wrthwynebydd i Gaitskell , ciliodd i'r meinciau cefn wedi i hwnnw ddod yn arweinydd y Blaid Lafur yn 1955 , er iddo fod, ganol y pumdegau, ar flaen y gad yn gwrthwynebu cynlluniau'r llywodraeth Geidwadol i sefydlu teledu masnachol.

Bu, ar hyd y blynyddoedd, yn wawdlyd iawn o genedlaetholdeb Cymreig a chynrychiolai'r traddodiad o sosialaeth ryngwladol a feithrinwyd gan y Central Labour College . Eto i gyd yr oedd ganddo ddiddordeb byw mewn materion Cymreig — dadleuai'n frwd o blaid diwygio'r modd y trafodid y materion hynny yn y senedd. Ymfalchïai'n fawr yn nhraddodiadau diwydiannol a llafurol deheudir Cymru ac am flynyddoedd, ei lyfrau ( The industrial revolution in south Wales ( 1924 ), The history of the south Wales miners ( 1926 ) a The history of the South Wales Miners’ Federation (cyfrol 1, 1938 ; y mae proflenni'r ail gyfrol yn Llyfrgell Coleg Nuffield , Rhydychen , ond ni chafodd ei chyhoeddi)) oedd yr astudiaethau mwyaf hylaw ar y pynciau hynny. Bu f. 3 Mai 1968 .

Llyfryddiaeth:

  • Western Mail , 4 Mai 1968 ;
  • The Times , 4 Mai 1968 ;
  • H. Francis a D. Smith , The Fed a history of the South Wales miners in the twentieth century , Llundain, 1980 ( 1980 ).

Awdur:

John Davies, Caerdydd