EAMES, WILLIAM (1874 - 1958), newyddiadurwr

Enw: William Eames
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1958
Priod: Jane Myfanwy Eames (née Hughes)
Rhiant: Margaret Eames (née Dowell)
Rhiant: Griffith Eames
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd ym Mhrestatyn, Fflint, 1874, yn fab i Griffith Eames a'i wraig Margaret (ganwyd Dowell) o Brestatyn. Saer oedd y tad a fwriodd ei brentisiaeth yn Lerpwl wedi cyfnod ar y tir yn ei fro enedigol yn sir Fôn. Ymsefydlodd yn Barrow-in-Furness ac yno fel cydgantorion yng nghôr Peter Edwards, 'Pedr Alaw') y cyfarfu'r ddau. Mynnodd y fam ddychwelyd i Brestatyn er mwyn geni'r plentyn yng Nghymru, ond yn Barrow y magwyd ef am ddwy flynedd. Yna symudodd y teulu i Faes-y-Groes, Prestatyn, ac yn ysgol yr eglwys y cafodd William Eames ei addysg nes ei fod yn 12 oed a mynd i weithio gyda'i dad, ond pan oedd yn 17 oed aeth yn ddisgybl-athro yn ysgol Frytanaidd newydd Prestatyn. Ym mis Hydref 1894 yr oedd yn un o fyfyrwyr cyntaf adran addysg Coleg y Brifysgol ym Mangor, a bu yno am ddwy fl. Ar ddiwedd ei gwrs cymerodd swydd athro cynorthwyol mewn ysgol Wesleaidd yn Dartford, Caint, lle y treuliodd ddwy fl., a dechrau ysgrifennu i'r papurau - Illustrated Bits a Sketchy Bits ac i Young Wales John Hugh Edwards. Symudodd i ysgol yn Surbiton ac ar ôl dwy flynedd derbyniodd, yn 1900, swydd yn ysgol fwrdd Caernarfon. Yno dechreuodd ddefnyddio Cymraeg yn y gwersi yn groes i'r traddodiad a chael cefnogaeth Arolygwr ei Mawrhydi. Yng Nghaernarfon daeth i gysylltiad agos â hoelion wyth newyddiaduraeth Gymraeg, e.e. R. Gwyneddon Davies, o dan John Davies, 'Gwyneddon'), Beriah Gwynfe Evans, Daniel Rees, T. Gwynn Jones, a John R. Lloyd Hughes, y cartwnydd (ei frawd-yng-nghyfraith yn ddiweddarach). Ac yntau wedi ymddiddori mewn ysgrifennu i'r wasg nid rhyfedd yn awyrgylch Caernarfon iddo gael ei atynnu gan newyddiaduraeth. Dewisodd Ab Gwyneddon ef i ysgrifennu erthygl flaen a nodiadau'r wythnos i'r North Wales Observer yn ei le tra byddai ef yn treulio tri mis yn America yn 1902. Ym mis Medi y flwyddyn honno ffarweliodd â'r ysgol i ddilyn ' Eifionydd ' (John Thomas, 1848 - 1922) fel golygydd Y Genedl, a chadwodd y gadair tan ddiwedd 1907, pryd y cafodd ei ddewis yn un o isolygyddion i'r Manchester Guardian a dechrau ar ei waith ym Manceinion ym mis Ionawr 1908. Yn 1916 penodwyd ef yn ysgrifennydd ariannol i'r Manchester Stock Exchange, ond cadwodd gysylltiad â'r Guardian. Yn 1919 cafodd ei wneud yn ysgrifennydd yr Exchange. Yn 1920 penderfynodd ef a meibion C.P. Scott sefydlu wythnosolyn masnachol - y Manchester Guardian Commercial Supplement a ymddangosodd ym mis Mehefin y flwyddyn honno, a throi'n llwyddiant diamheuol gyda'i atodiadau a ddaeth yn boblogaidd ym myd masnach, a pharhau tan 1939. Yn yr wythnosolyn hwn y rhoddwyd hysbysrwydd i syniad Charles Tonge o osod llinellau gwyn i reoli trafnidiaeth ar y ffordd. Yn 1931 dychwelodd i Gymru ac ymsefydlu ym Mhrestatyn a dechrau darlledu o stiwdio Bangor. Yn 1940 penodwyd ef gan Syr John Reith yn swyddog y wasg i'r Weinyddiaeth Hysbysrwydd, a symudodd i Gaerdydd lle y daeth yn gyfeillgar â D.T. Davies a Chaleb Rees, arolygwyr ysgolion, a darlledu'n rheolaidd o Gaerdydd. Yn 1947 gwnaed ef yn M.B.E.

Priododd, 25 Gorffennaf 1902, â Jane Myfanwy Hughes (chwaer Howel Harris Hughes), awdur Llyfr prydiau bwyd (1932), a hi oedd ' Megan Ellis ', golygydd tudalennau'r merched yn y Ford Gron. Clywyd hithau ar y radio o Fangor a Chaerdydd hefyd. Yr oeddynt yn gydawduron y nofel Melin y ddôl (1948). Bu farw William Eames ym Mae Colwyn 29 Medi 1958. Bu ei wraig farw yng Nghaerdydd 23 Mehefin 1955.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.