Ymddiddorodd mewn llawer maes. Adwaenai'r sêr wrth eu henwau , a gwyliai hwy trwy ei delisgop o flaen y tŷ ar lawer noson glir. Yr oedd yn gymrawd o'r Gymdeithas Seryddol Frenhinol (F.R.A.S.) . Ymddiddorodd yn hynt a helynt y sipsiwn , a gwnaeth gyfeillion o lawer ohonynt. Yr oedd yn awdur pedair cyfrol: O ganol shir Gâr , Cyn dringo'r Mynydd Du , Rhamantwr y De a Cyffro'r hen goffrau sydd yn gyforiog o hen gystrawennau sir Gâr , hen goelion, a difyrion cefn gwlad, a'i ddychymyg byw a'i ddawn dweud stori yn amlwg ynddynt. Teithiodd lawer ar gyfandir Ewrop . Ei arfer fyddai llogi lle ar long gargo o Abertawe . Bu ar daith bregethu yn T.U.A. Derbyniodd radd D.D. er anrh. (Oslo) . Bu'n gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg , a thraddododd anerchiad o'r gadair yn 1958 ym Mhwllheli ar y testun ‘ Parhad y Pentecost ’. Un o'i lu cymwynasau hael oedd ei rodd o fil o bunnoedd i Drysorfa Gynorthwyol ei enwad. Yn 1965 dyfarnwyd iddo'r O.B.E. i gydnabod ei wasanaeth dyngarol a'i ddewrder droeon yn achub rhai mewn perygl mewn môr ac afon.
Pr. (1), 10 Tach. 1908 , Anna Twining , Richmond Tce. , Caerfyrddin (bu f. 1933 ); pr. (2), yn 1934 , Sarah Jane Davies , Wauncefen , Heolddu , Rhydaman . Bu f. 10 Awst 1968 a chladdwyd ef ym mynwent Gellimanwydd .
Y Parch. Derwyn Morris Jones, Abertawe