DAVIES, RICHARD OWEN (1894 - 1962), gwyddonydd, ac athro cemeg amaethyddol

Enw: Richard Owen Davies
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1962
Priod: Dinah Myfanwy Davies (née Evans)
Rhiant: Owen Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwyddonydd, ac athro cemeg amaethyddol
Maes gweithgaredd: Addysg; Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Melfyn Richard Williams

Ganwyd yn y Ganllwyd, ger Dolgellau, Meirionnydd, 25 Mai 1894, yn fab i Owen Davies, gweinidog (A). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Dolgellau a Choleg y Brifysgol Aberystwyth lle'r enillodd radd M.Sc. yn 1916. Wedi cyfnod o 5 mlynedd mewn cemeg diwydiannol gyda chwmni ffrwydron Nobel, apwyntiwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol mewn cemeg amaethyddol yn ei hen goleg, a dyrchafwyd ef yn ddarlithydd yn 1925. Fel cymrawd o Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru astudiodd broblemau ymbortheg yng ngogledd Amerig, ac yn 1939 fe'i hapwyntiwyd yn gemegydd ymgynghorol a phennaeth adran cemeg amaethyddol Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, ar ymddeoliad yr Athro T.W. Fagan. Oherwydd prinder cyllid gadawyd y gadair mewn cemeg amaethyddol yn wag am y tro. Enillodd brofiad eang o ddysgu efrydwyr yn y brifysgol a'r rhai a gofrestrai yn ei ddosbarthiadau o dan nawdd yr adran efrydiau allanol, a gallai ddarlithio gyda'r un rhwyddineb yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Ef oedd trysorydd pwyllgor bathu geiriau Gwyddor gwlad, y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i drafod amaethyddiaeth ac a gyhoeddid ar ran adran amaethyddol Gymraeg Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru (1952-63). Bu'n un o'r cyfranwyr cyntaf i'r cylchgrawn ac yn ddarlledydd cyson ar ' Wyddor gwlad ' i ysgolion a ' Byd y ffermwyr ' rhwng 1935 ac 1951. Yn ei waith ymchwil fe roddodd sylw arbennig i broblemau ynglŷn â phorfa a llaeth, a chydweithiodd yn glos â Bridfa Blanhigion Cymru. Cyfrannodd yn helaeth i nifer o gylchgronau technegol ac ysgrifennodd lawlyfr ar ddysgu cemeg i ysgolion o dan y teitl Elfennau cemeg (1937). Bu'n ddeon y gyfadran wyddonol (1950-51). Adferwyd y Gadair ac apwyntiwyd ef yn athro cemeg amaethyddol yn 1954. Ymddeolodd yn 1959 a gwnaethpwyd ef yn athro emeritws Prifysgol Cymru. Gwasanaethodd y Sefydliad Cemegol fel arholwr allanol mewn cemeg amaethyddol, 1944-54. Bu farw 25 Chwefror 1962 a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Aberystwyth. Priododd ym Mehefin 1929 â Dinah Myfanwy, merch James Evans, Mydroilyn, Llannarth, Ceredigion. Bu hi farw 15 Mawrth, ychydig wythnosau cyn bod yn gant oed ar 10 Ebrill 1987.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.