DAVIES, RHISIART MORGAN (1903 - 1958), gwyddonydd ac athro ffiseg

Enw: Rhisiart Morgan Davies
Dyddiad geni: 1903
Dyddiad marw: 1958
Priod: Elizabeth Florence Davies
Rhiant: Rhys Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwyddonydd ac athro ffiseg
Maes gweithgaredd: Addysg; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Melfyn Richard Williams

Ganwyd yn Nghorris, Meirionnydd, ar 4 Chwefror 1903 yn fab i Rhys Davies gweinidog (A) a hanai o Wynfe. Addysgwyd ef yn ysgolion gramadeg Machynlleth a Dolgellau, a llwyddodd i ennill ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn 1921. Graddiodd mewn ffiseg gyda gradd anrhydedd dosbarth I yn 1924, ac fe'i hapwyntiwyd yn yr un flwyddyn ar staff ymchwil ysgol H.M. Signals yn Portsmouth, ond y flwyddyn ddilynol dychwelodd i Aberystwyth yn ddarlithydd cynorthwyol yn yr adran ffiseg a gwnaed ef yn ddarlithydd cyflawn yn 1928. Yn 1937 enillodd D.Sc. (Cymru) am waith pwysig ar fesur cysonion deuelectrig ac elastig o dan amgylchiadau dynamig.

Yn 1938 enillodd ysgoloriaeth ymchwil Leverhulme, ac o'r herwydd gallodd weithio yng Nghaergrawnt. Yn ystod y cyfnod hwn, datblygodd ddiddordeb mewn tonnau diriant (stress waves), a daeth yn un o'r prif arbenigwyr yn y maes hwn. Cyhoeddwyd canlyniadau ei waith yn 1948 a chydnabyddir hyn bellach o werth sylfaenol i'r gangen hon o ffiseg. Derbyniodd radd Ph.D. Caergrawnt am ei waith ymchwil. Rhyddhawyd ef o'i swydd yn ystod blynyddoedd Rhyfel Byd II ar gyfer gwaith ymchwil i'r Morlys i astudio ffrwydron tanfor.

Ar derfyn y Rhyfel dychwelodd i Aberystwyth. Ar farwolaeth Evan James Williams syrthiodd gofal yr adran ar ei ysgwyddau ef, ac fe'i penodwyd yn Ebrill 1946 yn athro ffiseg y coleg. Aeth ati dros y blynyddoedd i gasglu at ei gilydd dîm o wyddonwyr i'w adran i astudio'r problemau dirifedi ynglŷn â diriant, a daeth ei adran yn fyd-enwog. Bu'n is-brifathro'r coleg o 1954 hyd 1956 gan fod yn hynod o lwyddiannus, a hynny ar gyfnod eithriadol anodd.

Bu'n athro gwadd Sefydliad Technoleg Califfornia a Sefydliad Politechneg Reusselaer, 1956-57. Cyfrannodd nifer helaeth o erthyglau i wahanol gylchgronau gwyddonol, a'r pwysicaf ohonynt yn Trans. Roy. Soc. 1948 o dan y teitl ' A critical study of the Hopkinson pressure bar ', ac ef hefyd oedd cydolygydd a chyfrannwr i Surveys in Mechanics (1956). Bu'n gyfrifol am gyfres o ddarlithoedd radio ar ' Gwyddoniaeth heddiw ' yn ystod y tridegau.

Yr oedd ganddo nifer o ddiddordebau. Bu'n organydd a diacon yn eglwys Seion (A), Baker Street, Aberystwyth, am flynyddoedd. Yr oedd ganddo syniadau uchel am ansawdd addoliad cyhoeddus a lle caniadaeth y cysegr. Cadwai gyfrif o'r emynau a genid, ac anfynych y canai'r gynulleidfa yr un emyn ddwywaith mewn blwyddyn. Ymddiddorai hefyd mewn mabolgampau yn y coleg a bu'n drysorydd clwb pêl-droed y dref. Yr oedd ganddo bersonoliaeth hoffus. Byddai bob amser yn gwneud ei sigarennau ei hun gan eu rholio mewn papur licorys.

Priododd yn 1928 ag Elizabeth Florence, merch Thomas Davies, Aberystwyth, a bu iddynt un mab a fu farw'n ifanc. Bu farw yn ddisymwth ar 18 Chwefror 1958.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.