Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , LEWIS ; 1863 - 1951 ), nofelydd, hanesydd lleol ; g. yn Tramway , Hirwaun , Aberdâr, Morg. , 18 Mai 1863 , yn blentyn ieuangaf Lewis ac Amy Davies . Yr oedd ei dad yn ffeinar (‘refiner’) yng ngwaith haearn Crawshay ar Hirwaun . Addysgwyd y mab yn ysgol elfennol Penderyn nes iddo aeddfedu yn ddisgybl athro . Enillodd ysgoloriaeth i'r Coleg Normal , Bangor , lle y bu'n fyfyriwr am ddwy fl. ( 1881-82 ). Bu'n ysgolfeistr ym Mhenderyn o 1884 hyd 1886 ac yna symudodd i'r Cymer yn Nyffryn Afan , lle y bu'n ysgolfeistr hyd ei ymddeoliad yn 1926 . Pr. Celia Lewis o Ben-y-pownd , Cwm Taf yn 1886 . Bu'n ddiacon (am 60 ml.), ysgrifennydd (am 50 ml.) ac yn arweinydd y gân ac organydd eglwys (A) Hebron y Cymer . Bu'n gadeirydd cyngor dosbarth Glyncorrwg , yn ynad heddwch ac yn gadeirydd mainc ynadon y plant yn Aberafan , yn arweinydd seindorf drum and fife yn y Cymer ac yng Nghwm-parc ac yn arweinydd côr meibion Blaenau Afan . Ef oedd cyfansoddwr y dôn adnabyddus ‘ Cymer ’. Beirniadodd mewn cannoedd o eisteddfodau lleol ar ganu, adrodd, traethodau a barddoniaeth a hefyd yn yr Eist. Gen. Darlithiodd yn helaeth ar destunau llenyddol a cherddorol a hanesyddol a bu'n hyfforddwr ar y cynganeddion am lawer blwyddyn yn Ysgol Haf Llanwrtyd . Perthynai i genhedlaeth enwog o ysgolfeistri Cymraeg llengar a cherddgar. Enillodd tua 30 o wobrau yn yr Eist. Gen. am storïau, nofelau i blant, traethodau hanesyddol a daearyddol, nofelau hanes &c. Ei wobr fawr olaf oedd am nofel yn Eist. Gen. Dolgellau yn 1949 , ac yntau yn 86 oed, yn fusgrell ac yn ddall mewn un llygad . Yr oedd yn ail i D. Rhys Phillips yn Eist. Gen. Castell-nedd , 1918 , am draethawd ar hanes Cwm Nedd . Ef oedd y colofnydd ‘ Eryr Craig y Llyn ’ yn Y Brython a bu'n ohebydd cyson i bapurau'r De , yn genedlaethol ac yn lleol. Enillodd amryw gadeiriau am farddoniaeth mewn eisteddfodau lleol . Yr oedd yn awdurdod ar dribannau Morgannwg , ac fe rannodd y wobr am gasgliad gwych ohonynt yn Eist. Gen. Pen-y-bont ar Ogwr , 1948 , ac yntau yn 85 oed. Ef oedd yr awdurdod ar hanes plwyf Penderyn , ac yr oedd ganddo ysgrifau hanesyddol ar ddyffryn Afan , Glyncorrwg , Margam , Blaen-gwrach , Mynachlog Nedd , Morgannwg , &c. Cyhoeddodd Radnorshire ( Cambridge University Press , ‘County Series’), Outlines of the history of the Afan districts , Ystorïau Siluria , Bargodion hanes a 4 nofel antur- Lewsyn yr heliwr , Daff Owen , Y Geilwad bach a Wat Emwnt . Erys nifer o'i weithiau heb eu cyhoeddi.

Bu f. 18 Mai 1951 ac fe'i claddwyd ym mynwent gyhoeddus Cymer-Afan . Dadorchuddiwyd cofeb iddo yng nghapel Hebron , y Cymer , yn ymyl cofeb i'w hen gyfaill, Syr William Jenkins .

Llyfryddiaeth:

  • Brinley Richards , Hamddena , Abertawe, 1972 ( 1972 ).

Awdur:

Brinley Richards (1904-81), Maesteg