Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , WILLIAM HUBERT ( 1893 - 1965 ), cerddor ;

g. 24 Mai 1893 yn Abersychan, Myn. , ac addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Gorllewin Mynwy , Pontypŵl . Yn bymtheg oed enillodd ysgoloriaeth agored Sainton i astudio'r ffidil yn yr Academi Gerdd Frenhinol ; bu'n ddisgybl i Hans Wessely ac yn Dresden i Leopold Auer . O 1919 i 1923 bu'n aelod o'r triawd offerynnol a sefydlwyd gan Henry Walford Davies ( Bywg. 2, 9) , yng Ngholeg Prifysgol Cymru , Aberystwyth , ac yn 1923 ef oedd blaenwr y Gerddorfa Simffoni Gymreig . Clywodd Henry Wood ef a'i berswadio i ymuno â Cherddorfa Neuadd y Frenhines yn Llundain . Rhwng 1924 ac 1934 bu'n chwarae yno, yn y Tŷ Opera Brenhinol , Covent Garden , a chyda Cherddorfa Simffoni Llundain . O 1927 bu hefyd yn athro ffidil a fiola , ac yn aelod o'r triawd offerynnol yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd . Dychwelodd yn 1934 i Aberystwyth i ddysgu yn y Coleg yno ac i flaenu pedwarawd offerynnol y Coleg . Yn 1950 penodwyd ef yn diwtor ffidil, cyfansoddi a cherddorfa yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd . Cyfansoddodd yn helaeth, yn ganeuon a gweithiau corawl ac offerynnol, gan gynnwys yn 1945 waith comisiwn i Gerddorfa Simffoni Düsseldorf . Pr. Hannah May Reynolds , a bu iddynt ddau fab. Bu f. yng Nghaerdydd 27 Hyd. 1965 .

Ffynonellau:

  • Western Mail , 29 Hyd. 1965 ;
  • Robert Smith (cynullydd), Seventh catalogue of contemporary Welsh music (1981) ( 1981 ).

Awdur:

Dr Rhidian Griffiths, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1997