Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , GWILYM ( 1879 - 1955 ), gweinidog (B), hyrwyddwr dealltwriaeth ryngwladol; sylfaenydd Neges Heddwch Plant Cymru ; g. 24 Mawrth 1879 yn Nghwmfelin , Bedlinog, Morg. (lle mae cofeb iddo), yn un o feibion D.J. Davies , gweinidog (B) . Yr oedd yn ddisgybl-athro ym Medlinog pan symudodd ei dad i gyffiniau Llangadog ac aeth yn ddisgybl i ysgol ramadeg Llandeilo . Dechreuodd bregethu mor gynnar ag 1895 , a pharatôdd ei hun at y weinidogaeth yn y Midland Baptist College , Nottingham , ac yng Ngholeg Rawdon . Yno enillodd ysgoloriaeth Pegg a'i galluogodd i fynd i Goleg Iesu , Rhydychen , lle y graddiodd. Tra oedd yn Rhydychen golygodd The Baptist Outlook . Yn 1906 ord. ef yn weinidog yn Broadhaven, Penf. , a'r flwyddyn honno pr. (1) Annie Margaretta Davies ond bu hi f. 3 Rhag. 1906 a'u mab bedwar mis yn ddiweddarach; claddwyd hwy ym mynwent Cwmifor (B) , Maenordeilo, Caerf. Wedi hynny bu'n weinidog yng Nghaerfyrddin , 1908-15 ; Y Fenni , 1915-19 ; a Llandrindod 1919-22 . Yr oedd yn un o sylfaenwyr Ysgol Gwasanaeth Cymdeithasol yng Nghymru yn 1911 , a dangosodd wreiddioldeb fel ysgrifennydd , cadeirydd a llywydd y mudiad. Yr oedd eisioes yn adnabyddus am iddo sefyll dros iawnderau bechgyn o'r ysgolion diwygio na chaent eu trin yn deg bob amser gan eu cyflogwyr.

Yn 1922 ymddeolodd o'r weinidogaeth i hyrwyddo heddwch rhyngwladol . Cychwynnodd ef ac ( Arglwydd ) David Davies ( Bywg. 2, 8) adran Gymreig Undeb Cynghrair y Cenhedloedd gyda'i chanolfan yn Aberystwyth a bu'n gyfarwyddwr o'r cychwyn ( 1922-45 ). Cynhaliwyd cynadleddau blynyddol ( 1922-39 ) yng Ngregynog ar addysg ryngwladol hyd nes i Gynghrair y Cenhedloedd chwalu. Yn ystod y rhyfel gofynnwyd i'r Pwyllgor Addysg Gymreig lunio o dan ei gyfarwyddyd ef gyfansoddiad mudiad addysg ryngwladol. Ar y cynllun a gyflwynodd Gwilym Davies y seiliwyd cyfansoddiad UNESCO . Ond cofir ef yn bennaf am gychwyn yn 1922 neges heddwch plant Cymru i blant y byd a ddarlledir yn awr ar y radio ar 18 Mai . Yn ddamweiniol, ef oedd y cyntaf i ddarlledu yn Gymraeg , a hynny ar Ddydd Gŵyl Dewi 1923 . Defnyddiodd y sinema, radio a'r wasg i hyrwyddo'i waith. Ymddangosodd llawer o erthyglau pwysig ganddo yn Welsh Outlook , Yr Efrydydd , ac yn Y Traethodydd (lle yr ymddangosodd ei erthygl ddadleuol ar Blaid Cymru yn 1942 ). Casglwyd rhai ohonynt yn Y Byd ddoe a heddiw ( 1938 ). Cyhoeddodd International education in the schools of Wales and Monmouthshire ( 1926 ), The Ordeal of Geneva ( 1933 ), Intellectual cooperation between the Wars ( 1943 ), a The Gregynog conferences on international education 1922-37 ( 1952 ), yn ogystal ag adroddiadau blynyddol cyngor cenedlaethol Cymru o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd , 1923-39 , ac o Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig , 1943-46 . Gwnaethpwyd ef yn C.B.E. yn 1948 , a derbyniodd radd LL.D. er anrh. gan Brifysgol Cymru yn 1954 .

Bu ei iechyd yn fregus ers dyddiau coleg. Treuliodd lawer o'i fywyd yng Nghaerdydd a Genefa , ac aeth ei waith ag ef i bob rhan o'r byd. Pr. (2) ar 24 Ion. 1942 â Mary Elizabeth Ellis , Dolgellau (yr ail wraig i gael ei phenodi'n arolygwr ysgolion yng Nghymru ; cafodd ganiatâd i br. ac i ddal ei swydd hyd 1943 ). Cartrefasant yn 8 Rhodfa'r Môr , Aberystwyth . Bu ef f. 29 Ion 1955 a gwasgarwyd ei lwch ger Trwyn Larnog , Penarth , lle y trosglwyddwyd y negeseuau radio cyntaf ar draws y dŵr.

Llyfryddiaeth:

  • Ieuan Gwynedd Jones (gol.), Gwilym Davies, 1879-1955 a tribute , Llandysul, 1972 ( 1972 );
  • papurau Gwilym Davies yn Ll.G.C., 1955-72 ;
  • gwybodaeth gan D. Emrys Williams, Aberystwyth .

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth