DAVIES, GRIFFITH ('Gwyndaf '; 1868 - 1962); bardd, athro beirdd, a hynafiaethydd

Enw: Griffith Davies
Ffugenw: Gwyndaf
Dyddiad geni: 1868
Dyddiad marw: 1962
Priod: Kate Ann Davies (née Jones)
Priod: Elin Davies (née Davies)
Plentyn: Megan Davies
Rhiant: Griffith Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, athro beirdd, a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Eisteddfod; Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Ifor Owen

Ganwyd 5 Chwefror 1868 yn nhyddyn bychan Llwynpïod, Llanuwchllyn, Meirionnydd. Bu farw ei dad, Griffith Davies, cyn ei eni, a chafodd ei fam amser caled wrth fagu eu dau fab, Griffith a Thomas. Bu yn yr ysgol leol, ac am gyfnod yn ysgol enwog Owen Owen (1850 - 1920) yng Nghroesoswallt. Treuliodd ran helaethaf ei oes yn ffermio Bryncaled, fferm yn ymyl Llwynpïod. Priododd (1) Elin Davies, Bryncaled, Llanuwchllyn, ac yna (2) Kate Ann Jones, Bryn Coch, Llanuwchllyn, un o wehelyth John Jones, ('Tudur Llwyd') Weirglodd Gilfach, Llanuwchllyn, bardd a hynafiaethydd. Bu iddynt un ferch, Megan. Treuliodd Gwyndaf flynyddoedd olaf ei oes ym mwthyn Glan'rafon wrth droed Carndochan. Yr oedd yn ddiacon yn eglwys annibynnol Yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, a bu'n aelod a henadur o gyngor sir Meirionnydd am 40 mlynedd. Bu'n islywydd Cymdeithas Hanes Meirionnydd, ac yn aelod o Gymdeithas Hanes Penllyn. Yr oedd yn gynganeddwr ac englynwr medrus, a bu'n athro beirdd gydol ei oes faith. Bu'n eisteddfodwr brwd, a derbyniwyd ef i'r Orsedd yn 1911, a bu'n annerch o'r Maen Llog fwy nag unwaith. Ysgrifennai'n gyson i'r wasg leol, ac yn achlysurol i'r Tyst, Y Dysgedydd a'r Geninen. Yn 1910 cyhoeddodd lyfryn bychan yn cynnwys ei awdl i Michael D. Jones. Wedi ei farw, cyhoeddwyd, yn 1966, dan olygiaeth James Nicholas, gyfrol o'i waith, Awen Gwyndaf Llanuwchllyn. Bu farw 4 Chwefror 1962, ddiwrnod cyn ei 94 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent newydd Llanuwchllyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.