Bwriodd ei brentisiaeth fel bardd ym ‘ Mhabell awen ’ Y Cymro dan gyfarwyddyd Dewi Emrys (gw. JAMES , DAVID EMRYS , isod) a daeth dan ddylanwad R. Williams Parry (gw. isod) ym Mangor ac E. Prosser Rhys ( Bywg. 2, 48) yn Aberystwyth . Enillodd lawer o wobrau eisteddfodol gan gynnwys rhai yn yr Eist. Gen. Ar wahân i fod yn weinidog gofalus a hoffus daeth yn adnabyddus i gylch eang yng ngogledd Cymru fel beirniad eisteddfodol , colofnydd mewn papurau wythnosol , darlledwr ac athro gyda Mudiad Addysg y Gweithwyr . Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth: Yn ieuenctid y dydd ( 1941 ) a Y Dwyrain a cherddi eraill ( 1945 ). Ar ôl ei f. cyhoeddwyd trydedd gyfrol o'i farddoniaeth, Yr ysgub olaf ( 1971 ). Enillasai radd M.A. Prifysgol Lerpwl yn 1958 am draethawd ar fywyd a gwaith Gwilym Cowlyd ( Bywg. , 831) a chyhoeddodd ei weddw ef dan y teitl Gwilym Cowlyd 1828-1904 ( 1976 ).
Pr. Freda Vaughan Davies , Maesneuadd , Pontrobert a bu iddynt fab a merch. Bu f. yn ei gartref ym Mae Colwyn 13 Meh. 1968 , a chladdwyd ef ym mynwent Bron-y-nant , Bae Colwyn .
Derwyn Jones, M.A., Bangor / Bae Colwyn