Addysgwyd Gwen Davies a'i chwaer Margaret (gw. isod) yn ysgol Highfield, Hendon, a thrwy deithio tramor, yn enwedig yn Ffrainc. Eu bwriad wrth brynu plasty Gregynog, ger y Drenewydd, yn fuan wedi Rhyfel Byd I oedd sefydlu canolfan gelfyddyd a chrefft i Gymru. Un grefft a ddatblygwyd, sef argraffu, a hynny i raddau pell oherwydd ynni Thomas Jones, C.H., (gw. isod). Rhwng 1923 ac 1942 fe gyhoeddodd Gwasg Gregynog ddau deitl a deugain mewn argraffiadau cyfyngedig; ac ymhlith y cyfrolau, llawer ohonynt yn hynod hardd eu hargraffyddiaeth a'u rhwymiad, yr oedd wyth yn Gymraeg a nifer dda o'r lleill ag iddynt gysylltiadau Cymreig. (Ni allai'r chwiorydd siarad Cymraeg.) Dechreuodd y ddwy brynu darluniau o ddifrif yn 1908, ac yn ystod y pymtheng mlynedd nesaf fe ffurfiwyd ganddynt gasgliadau nodedig, a roddwyd neu a gymynwyd bron yn gyfan i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng nghwrs amser. Eu cynghorwr yn eu prynu cynnar oedd Hugh Blaker (1873-1936), brawd eu hathrawes breifat a churadur Amgueddfa Caerfaddon ar un adeg, ac o'r gweithiau a brynwyd y mae enghreifftiau gwych anghyffredin o ddarluniau gan Corot, Millet, Cezanne, Monet a Renoir, ac o gerfluniau gan Rodin. Yr oedd Gwen Davies hefyd yn feiolinydd amatur pur fedrus ac fe aed ati yn fuan i ddatblygu bywyd cerddorol Gregynog. Wedi adeiladu ystafell gerdd fe gafwyd Frederick Rothwell i osod organ ynddi dan arolygiaeth Syr Walford Davies (Bywg. 2, 9) a oedd hefyd yn bennaf gyfrifol am y cyngherddau a gyrhaeddodd eu hanterth yn y gwyliau blynyddol o gerdd a barddoniaeth rhwng 1933 ac 1938. Yr oedd y chwiorydd yn aelodau o gôr Gregynog a ganai yn y cyngherddau hyn, ac fe fu Elgar, Holst a Vaughan Williams ynddynt fel ymwelwyr. Y ddwy chwaer oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r cymorth ariannol a gafodd y Cyngor Cerdd Cenedlaethol, ac ymhlith derbynwyr eu rhoddion elusennol-sylweddol iawn yn aml-yr oedd llawer o sefydliadau cerddorol, cymdeithasol, meddygol ac addysgol. Yng Ngregynog, hefyd, rhoddwyd croeso i nifer o gynadleddau ar faterion y dydd, yn fynych mewn cydweithrediad â'u brawd, yr Arglwydd Davies 1af (Bywg. 2, 8).
Yr oedd ffordd o fyw y chwiorydd, wedi ei gwreiddio mewn cefndir cadarn Calfinaidd, ymhell o fod yn gonfensiynol aristocrataidd. Hytrach yn swil a diymhongar oedd y ddwy, ac am lawer blwyddyn yr oedd dylanwad eu llysfam awdurdodol yn drwm arnynt. Ond yr oedd gan yr hynaf bersonoliaeth fwy anturus ac efallai ddychymyg mwy effro, gyda pheth hoffter at foeth ac amrywiaeth, er enghraifft ym myd garddio. Er mor ddiymhongar oeddynt yr oedd iddynt eu delfrydau, ynghŷd â'r moddion a'r ewyllys i'w gwireddu.
Bu f. Gwen Davies, a grewyd yn C.H. yn 1937, yn ysbyty Radcliffe, Rhydychen, ar 3 Gorff. 1951, a chladdwyd ei llwch yn Llandinam.
Glyn Tegai Hughes, Y Drenewydd