DAVIES, JOSEPH EDWARD (1876 - 1958), cyfreithiwr rhyngwladol

Enw: Joseph Edward Davies
Dyddiad geni: 1876
Dyddiad marw: 1958
Priod: Marjorie Davies
Priod: Emlen Davies (née Knight)
Plentyn: Emlen Davies
Plentyn: Rahel Davies
Plentyn: Eleanor Davies
Rhiant: Rachel Davies (née Paynter)
Rhiant: Edward Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr rhyngwladol
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 29 Tachwedd 1876 yn Watertown, Virginia, T.U.A., mab Edward Davies, saer, a Rachel ei wraig, efengyles a bardd a adweinid fel ' Rahel o Fôn '. Treuliodd beth amser yn blentyn yn sir Fôn, ac yn ystod ei ddyddiau coleg deuai bob haf i Gymru a threuliai beth amser gydag Evan Rowland Jones, conswl dros T.U.A. yng Nghaerdydd, a brodor o Dregaron, fel ei dadcu. Y cysylltiad â Tregaron a barodd iddo yn ddiweddarach roi enw'r dref honno ar ei dŷ yn Washington y dymunai weld ei ddefnyddio yn ysgol i fyfyrwyr graddedig mewn astudiaethau rhyngwladol.

Galwyd ef i'r Bar yn Wisconsin yn 1901 a datblygodd yn gyfreithiwr rhyngwladol o fri. Ef oedd un o wŷr deheulaw Woodrow Wilson, a safodd etholiad aflwyddiannus i'r Gyngres yn 1918. Ymwrthododd â gwasanaeth cyhoeddus ar ôl hyn, a chanolbwyntio ar ei yrfa yn y gyfraith. Penodwyd ef yn llysgennad i Rwsia yn 1936 ac i wlad Belg yn 1938, i Rwsia yr eildro yn 1943 ac i Brydain yn 1945 ychydig cyn mynychu Cynhadledd Potsdam.

Derbyniodd tua naw gradd prifysgol, gan gynnwys LL.D. Prifysgol Cymru (1946), ac etholwyd ef yn islywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Dyfarnwyd iddo Medal of Merit yn 1946, yr anrhydedd uchaf y gellid ei roi i ddinesydd gan lywodraeth T.U.A.; a chafodd anrhydeddau cyffelyb gan lywodraethau deg gwlad arall. Ceir ysgrifau ganddo mewn amryw gylchgronau (1913-47), ac adroddiadau ar ddiwydiant, treth corfforaethau ac agweddau ar y gyfraith. Daeth yn adnabyddus i gylch ehangach wedi cyhoeddi ei lyfr dadleuol, Mission to Moscow (1941).

Priododd (1), 10 Medi 1902, Emlen Knight, a bu iddynt dair merch: Eleanor, Rahel ac Emlen. Yr oedd yn ŵr cyfoethog iawn ei hun pan briododd (2), yn 1935, Mrs. Marjorie Post a etifeddodd 20 miliwn doler gan ei thad. Bu farw 9 Mai 1958 a chladdwyd ef yng nghadeirlan Washington.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.