Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , DAVID CAXTON ( 1873 - 1955 ), argraffydd a chyfarwyddwr cwmnïau ; g. yn Llanbedr Pont Steffan , 8 Awst 1873 , yn fab i David a Margaret Davies (hi oedd yr hynaf o drigolion y dre honno pan fu f. 28 Rhag. 1937 ). Cafodd ei addysg yn ei dref enedigol. Ef oedd rheolwr y Wasg Eglwysig Gymreig yn Llanbedr a chwmni Grosvenor a Chater , Llundain ( 1909-19 ), rheolwr a chyfarwyddwr cwmni William Lewis , argraffwyr , Caerdydd , a chwmni Davies, Harvey a Murrell , masnachwyr papur , Llundain . Bu'n llywydd Cynghrair Argraffwyr De Cymru a Mynwy , 1935-36 . Yr oedd yn un o sylfaenwyr Clwb Rotari Caerdydd . Cafodd radd M.A. Prifysgol Cymru er anrh. yn 1947 am ei wasanaeth dros gyhoeddi llyfrau a chyfnodolion yn ymwneud â Chymru , ac yn arbennig dros y cyfryw yn yr iaith Gymraeg . Bu f. 5 Tach. 1955 ; cynhaliwyd gwasanaeth angladdol yn eglwys Dewi Sant , Caerdydd , cyn cymryd ei gorff i amlosgfa Thornhill ar 9 Tach.

Llyfryddiaeth:

  • Who's who in Wales ( 1937 );
  • Western Mail , The Welsh Gazette , 6 Ion. 1938 .

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth