DAVIES, ANNIE (1910 - 1970), yn fwy adnabyddus fel NAN, cynhyrchydd radio, a theledu'n ddiweddarach

Enw: Annie Davies
Dyddiad geni: 1910
Dyddiad marw: 1970
Rhiant: Elizabeth Davies
Rhiant: David Davies
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: cynhyrchydd radio, a theledu'n ddiweddarach
Maes gweithgaredd: Perfformio
Awdur: Owen Edwards

Ganwyd 16 Mehefin 1910, yn Llwyngwinau House, Tregaron, yn drydydd (o chwech) plentyn David ac Elizabeth Davies. Pan anwyd hi cadwai'r teulu siop cigydd yn Nhregaron, ond pan oedd hi tua blwydd oed symudasant i ffermio Cefngwyddyl ym mhlwy Llanbadarn Odwyn, a thrachefn yn 1919 i fferm Pontargamddwr ym mhlwy Caron-is-clawdd. Cafodd ei haddysg yn ysgol gynradd Castell Fflemish o 1915 i 1923 pryd yr aeth i ysgol sir Tregaron. Aeth i Goleg Prifysgol Cymru yn 1929 a chymerodd ei harholiadau terfynol mewn Lladin a hanes ym Mehefin 1932, ond yn 1933 y graddiodd.

Bu am gyfnod ar staff Llyfrgell Dinas Caerdydd cyn ymuno â'r B.B.C. yn 1935 fel ysgrifenyddes i Sam Jones . Bu'n ei gynorthwyo gyda sefydlu traddodiad gwych canolfan Bangor ym myd radio Cymraeg. Yn 1946 gadawodd y B.B.C. a dychwelyd i Geredigion yn warden Aelwydydd Urdd Gobaith Cymru yn Nhregaron a Phontrhydfendigaid. Y flwyddyn wedyn penodwyd hi'n ysgrifennydd apeliadau ariannol yr Urdd, a'i dyrchafu ymhen y flwyddyn yn bennaeth yr adran apeliadau, ac yn bennaeth adran rhaglenni a chynllunio'r mudiad yn 1949. Ymhen ychydig fisoedd, dychwelodd i Fangor fel cynhyrchydd sgyrsiau radio, ac yn 1955 symudodd i bencadlys y B.B.C. yng Nghaerdydd, i fyd radio ac wedyn i deledu.

Yng Nghaerdydd yr oedd yn gyfrifol am olygu'r cylchgrawn radio llenyddol ' Llafar ', a hi oedd cynhyrchydd cyntaf (ac yn ddiweddarach, golygydd) y cylchgrawn teledu ' Heddiw ', y rhaglen deledu gyntaf i drafod materion cenedlaethol a chydgenedlaethol trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn 1965 enillodd y rhaglen hon wobr y Western Mail and Echo am raglen Gymraeg orau'r flwyddyn. Ymwelodd â'r wladfa ym Mhatagonia a chynhyrchu'r ffilmiau cyntaf a welwyd ar y teledu o'r wlad honno. Bu'n gyfrifol am nifer fawr o raglenni megis ' Nant dialedd ', ' Shepherd's calendar ', ' Bugail Cwm Prysor ', a ' Prynhawn o Fai '. Yn 1969 ymddiswyddodd o'r B.B.C., dychwelyd i Dregaron a phrynu tŷ'r ' Monarch ' yno; ni chafodd ond ychydig fisoedd o iechyd a bu farw yn 59 oed yn ysbyty Singleton, Abertawe, 7 Mai 1970. Claddwyd hi ym mynwent capel Bwlchgwynt, Tregaron, ar Fai 11.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.