Addysgwyd J.E. Daniel ym Mangor a meithrinwyd ef yn y traddodiad clasurol yn Ysgol y Friars . Yn 1919 enillodd ysgoloriaeth i Goleg Iesu , Rhydychen , a thra oedd yno enillodd yn 1922 radd dosbarth I yn Classical Moderations a'r flwyddyn ddilynol radd dosbarth I mewn Litterae Humaniores a choroni'r gamp hon gyda dosbarth I mewn diwinyddiaeth yn 1925 . Yr un flwyddyn crewyd swydd ‘ cymrodor ’ iddo yng Ngholeg Bala-Bangor a chyda marw'r Dr. Thomas Rees ( Bywg. , 781) , fe'i penodwyd ar 28 Gorff. 1926 yn athro cyflawn i ofalu am y cyrsiau mewn athrawiaeth Gristionogol ac athroniaeth crefydd . Yn 1931 fe'i rhyddhawyd o'i waith er mwyn iddo dreulio hanner blwyddyn wrth draed Rudolph Bultmann yn Marburg . Bu'n athro yng Ngholeg Bala-Bangor hyd Ion. 1946 . Erbyn hynny yr oedd wedi ei benodi'n un o arolygwyr ysgolion y Weinyddiaeth Addysg gyda gofal arbennig am addysg grefyddol a'r clasuron a thrigai yn y cyfnod hwn yn y Wig , Morgannwg , ac wedyn yn y Tŷ Gwyn , Bodffari . Fe'i lladdwyd mewn damwain foduron yn ymyl Helygain , sir y Fflint , 11 Chwef. 1962 , a chladdwyd ei weddillion yn y Fynwent Newydd , Bangor . Pr. â Chatrin , merch Rowland Hughes ( 1870 - 1928 ), gweinidog (A) , a bu iddynt bum plentyn.
Gyda'i gymwysterau academaidd eithriadol, yr oedd Daniel yn ddiwinydd gyda'r medrusaf yn ei genhedlaeth, yn cyfuno gwybodaeth eang, cof diollwng a meddwl dadansoddol o'r radd flaenaf. Daeth yn drwm o dan ddylanwad dysgeidiaeth Karl Barth a Rudolph Bultmann , yn nyddiau cynhyrfus eu hymgyrchoedd cynnar. Cyfranogai o'u hysbryd herfeiddiol a'u beirniadu llym ar y ddiwinyddiaeth a oedd mewn bri ar y pryd, gan greu trwy hynny wrthwynebwyr ffyrnig. Ond Daniel oedd lladmerydd Cymraeg galluocaf yr adwaith yn erbyn y ddiwinyddiaeth ryddfrydol yng Nghymru . Prin iawn, er hynny, oedd ei gynnyrch llenyddol yn y maes. Cyhoeddodd Dysgeidiaeth yr Apostol Paul ( 1933 ) a dyrnaid o erthyglau hwnt ac yma. Ni chafodd ei ordeinio ond yr oedd galw mawr am ei wasanaeth fel pregethwr oherwydd grymuster cynhyrfus ei bregethu, yn cyfuno diwylliant eang ac argyhoeddiad eirias.
Yr oedd yn genedlaetholwr cadarn. Daeth i amlygrwydd yn gynnar fel un o arweinwyr Plaid Genedlaethol Cymru a sefydlwyd yn 1925 . Ysgrifennai'n gyson i'w phapur, Y Ddraig Goch , ac mewn pedwar etholiad cyffredinol safodd fel ymgeisydd yn ei henw. Bu'n islywydd y Blaid o 1931 hyd 1935 a dilynodd John Saunders Lewis fel ei llywydd yn 1939 a dal y swydd hyd Awst 1943 .
Yr oedd Daniel yn nodedig am ei ddiwylliant eang, disgleirdeb eithriadol ei feddwl, grymuster a chyfoeth ei Gymraeg wrth siarad ac ysgrifennu, ei sêl tros bopeth gorau Cymru a thros y Ffydd Gristionogol , yn anad dim.
Y Parchedig Brifathro Robert Tudur Jones, D.Phil., (1921-98), Bangor