Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CASSON , LEWIS ( 1875 - 1969 ), actor a chynhyrchydd dramâu ; g. ym Mhenbedw , swydd Caer , 26 Hyd. 1875 , yn fab i Thomas Casson o Ffestiniog, Meir. , a'i briod Laura Ann (g. Holland-Thomas ) . Ar ôl gadael Ysgol Ramadeg Rhuthun bu'n cynorthwyo'i dad i wneud organau , a mynychodd y Coleg Technegol Canolog , South Kensington , am gyfnod, cyn mynd i Goleg S. Mark , Chelsea , i'w hyfforddi'n athro . Yn 1903 ymddangosodd ar lwyfan y Court Theatre fel actor proffesiynol yn Man and superman a dramâu eraill. Bu 1907 yn flwyddyn dyngedfennol yn ei hanes oherwydd dyna pryd yr ymunodd â chwmni Miss Horniman yn theatr y Gaiety lle y cafodd ddechrau cyfarwyddo dramâu , a hefyd yno y cyfarfu â Sibyl Thorndike a br. yn Aylesford , swydd Caint , 22 Rhag. 1908 . Bu iddynt bedwar o blant.

Yn ystod Rhyfel Byd I bu'n sarsiant yn yr Army Service Corps ( 1914-15 ) ac uchgapten gyda'r Royal Engineers ( 1916-19 ), clwyfwyd ef, a chafodd M.C. Wedi dychwelyd i Lundain , cyfarwyddodd ar y cyd â'r awdur , G.B. Shaw , y cynhyrchiad gwreiddiol o St. Joan ( 1924 ), a'i wraig yn cymryd y brif ran. Teithiodd ef a'i wraig trwy Dde Affrica yn 1928 , a'r Dwyrain Canol , Awstralia a Seland Newydd yn 1932 . Yn 1938 cynhyrchodd Henry V yn Drury Lane i Ivor Novello (gw. isod) , ac adnewyddodd ei gysylltiad â'r Old Vic , lle y cyfarwyddodd Laurence Olivier yn Coriolanus a John Gielgud yn King Lear ( 1940 ). Y flwyddyn honno teithiodd ef a'i wraig trwy Gymru i berfformio Macbeth , a ddilynwyd gan King John , Candida , Medea a St. Joan . Buont yn cydweithio ar ôl Rhyfel Byd II , nid yn unig yn Llundain , lle y dangosodd Lewis Casson ei ddawn nodedig fel actor yn The linden tree gan J.B. Priestley , ond hefyd mewn gŵyl ddrama yng Nghaeredin ac Efrog Newydd , ac ar bedair taith o berfformiadau dramatig a dramâu cyfoes yn y Dwyrain Canol , y Dwyrain Pell , India , Awstralasia ac Affrica . Dathlasant jiwbili eu priodas trwy gymryd rhan yn Eighty in the shade ( 1959 ), drama a gyfansoddodd Clemence Dane yn arbennig iddynt hwy. Yr oedd gan Lewis Casson lais bas cryf a chyfoethog, ac yr oedd yn actor amryddawn yn ogystal ag yn gynhyrchydd o fri. Ymddangosodd mewn cannoedd o rannau a pharhaodd i weithio hyd 1968 .

Wedi cynorthwyo i ddatblygu undeb llafur yr actorion , bu am flynyddoedd lawer yn un o arweinwyr mwyaf ymroddgar y mudiad. Siaradai'n eofn o blaid y theatr ac etholwyd ef yn llywydd y British Actors’ Equity ( 1941-45 ), ac yn gyfarwyddwr y ddrama i'r Cyngor er Hyrwyddo Cerddoriaeth a'r Celfyddydau ( 1942-44 ). Yn 1945 dyrchafwyd ef yn farchog , a derbyniodd raddau er anrh. gan brifysgolion Glasgow ( 1954 ), Cymru ( 1959 ) a Rhydychen ( 1966 ). Er mai yn 98 Swan Court , Llundain , yr oedd ei gartref, arhosai'r teulu'n achlysurol yn eu tŷ, Bron-y-garth , Porthmadog , cyn ei werthu yn 1949 . Bu f. 16 Mai 1969 .

Llyfryddiaeth:

  • Who was who? ;
  • John Casson , Lewis and Sibyl a memoir , 1972 ( 1972 );
  • The Times , 17 Mai 1969 ;
  • Y Genhinen , 27, 1977 , 26-7.

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth