BUSH, PERCY FRANK (1879 - 1955), chwaraewr rygbi

Enw: Percy Frank Bush
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1955
Rhiant: James Bush
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr rygbi
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Gareth W. Williams

Ganwyd 23 Mehefin 1879, yng Nghaerdydd. Hanai ei deulu o Ben-y-graig. Bu ei dad, James Bush, yn athro celfyddyd ac yn un o sylfaenwyr clwb rygbi Caerdydd yn 1875. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd.

Enillodd 8 cap fel maswr rhwng 1905 ac 1910. Cymeriad hynod, yn llawn direidi a'r annisgwyl ar y maes. Yr oedd yn hollol hunan-feddiannol ac annibynnol. Chwaraeodd gyntaf dros Gaerdydd yn Nhachwedd 1899. Bu'n aelod o dîm Prydain yn Awstralia a Seland Newydd yn 1904, lle'r ystyriwyd ef yn un o'r maswyr gorau a welwyd yno erioed. Sgoriodd 104 o bwyntiau ar y daith, 17 ohonynt mewn un gêm. Bu'n gapten clwb Caerdydd 1905-06, pan enillwyd pob gêm ond honno yn erbyn y Crysau Duon, a chyfrifid Bush yn bersonol gyfrifol am y methiant hwnnw. Chwaraeodd ran allweddol ym muddugoliaeth hanesyddol Cymru (3-0) dros y Crysau Duon ar 16 Rhagfyr 1905. Yn 1907 bu'n gapten Caerdydd pan drechwyd De Affrica 17-0. Nid enillodd ond 8 o gapiau oherwydd y gwrthgyferbyniad rhwng ei ddull ef ac eiddo mewnwr Cymru, Dickie Owen.

Bu'n athro ysgol tan 1910, pan ymsefydlodd yn Nantes lle y parhaodd i chwarae rygbi. Yn 1918 penodwyd ef yn ddirprwy-gonswl Prydeinig yn y ddinas honno. Dychwelodd i Gaerdydd tua chanol yr 1930au, a dyfarnwyd iddo Médaille d'Argent de la Reconnaissance Française yn gydnabyddiaeth o'i wasanaeth i gysylltiadau Ffrainc a'r gwledydd Celtaidd. Bu farw yng Nghaerdydd 19 Mai 1955. Chwaer iddo oedd Ethel M. Bush, yr heddychwraig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.