Daeth y trobwynt mawr yng ngyrfa David Brunt pan ymrestrodd yn 1916 yn Adran Feteorolegol catrawd y Peirianwyr Brenhinol . Cyflawnodd waith pwysig ym mlynyddoedd y Rhyfel ynglŷn ag amodau hinsoddol ar lefelau isel mewn rhyfel cemegol, ac ar lefelau uwch wedi iddo fynd yn feteorolegydd i'r Llu Awyr . Enwyd ef droeon mewn cadlythyrau . Daeth yn rhagolygydd medrus, ac wedi ei ryddhau o'r lluoedd gwahoddwyd ef i fynd i'r Swyddfa Feteoroleg a ddaeth yn Weinyddiaeth Awyr yn 1921 . Ni chaniataodd i'w ddyletswyddau swyddogol dorri ar ei waith ymchwil personol. Derbyniodd wahoddiad Syr Napier Shaw i ymuno ag ef fel athro rhan-amser mewn meteoroleg yn Imperial College of Science and Technology , Llundain . Ar ymddeoliad Syr Napier daeth Brunt yn athro llawn-amser (y cyntaf mewn meteoroleg ym Mhrydain ). Daliodd y gadair o 1934 i 1952 , ac etholwyd ef ddwy flynedd yn ddiweddarach yn Gymrawd o'r Coleg .
Yn ystod ei yrfa academaidd ysgrifennodd 58 o bapurau gwyddonol a 5 llyfr pwysig — Combination of observations ( 1917 ), Meteorology ( 1928 ), Physical and dynamical meteorology ( 1934 ), Weather science for everybody ( 1936 ) a Weather study ( 1942 ). Ef oedd llywydd y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol , 1942-44 , a dyfarnwyd iddo Wobr Buchan a Medal Aur Symons . Bu'n llywydd y Gymdeithas Ffisegol , 1945-47 . Ymddiddorai mewn pynciau perthnasol i Feteoroleg yn yr ystyr eangaf. Bu'n gadeirydd y British Gliding Association , ac yn gadeirydd yr Electricity Supply Research Council , 1952-59 . Etholasid ef yn F.R.S. mor gynnar ag 1939 , a dyfarnwyd Medal Aur y Gymdeithas Frenhinol iddo yn 1944 . Rhoes wasanaeth mawr iddi fel ysgrifennydd tra effeithiol, 1948-57 , ac fel is-lywydd , 1949-57 . Urddwyd ef yn farchog yn 1949 ac yn K.B.E. yn 1959 .
Syr David Brunt , yn ddiamau, oedd meteorolegydd enwocaf hanner cyntaf y ganrif hon, pan oedd y pwnc yn newid o fod yn wyddor ddisgrifiadol bron i fod yn wyddor seiliedig fwyfwy ar gysyniadau mathemategol, ac ar yr un pryd yn newid o ddibyniaeth ar sylwadaeth seiliedig ar y ddaear i ddibynnu ar ddata o'r awyr uchaf. Derbyniodd radd Sc.D. (Caergrawnt) yn 1940 , D.Sc. er anrh. Prifysgol Llundain , 1960 , ac anrhydedd cyffelyb gan Brifysgol Cymru , 1951 . Bu f. 5 Chwef. 1965 .
Yr Athro Emrys George Bowen, M.A., F.S.A., (1900-83), Aberystwyth