Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BRANGWYN , Syr FRANK FRANCOIS GUILLAUME ( 1867 - 1956 ), arlunydd : g. yn Bruges , Gwlad Belg , 13 Mai 1867 , yn drydydd mab William Curtis Brangwyn (a fu f. 1907 yng Nghaerdydd ) ac Eleanor (g. Griffiths ) ei wraig a hanai o Aberhonddu . Pensaer eglwysig oedd y tad a chanddo weithdy dodrefn eglwysig yn Bruges ond dychwelodd y teulu i Lundain yn 1875 . Ychydig o addysg ffurfiol a gafodd y mab. Bu'n dysgu dylunio yn Amgueddfa De Kensington ac yn gweithio yng ngweithdy William Morris yng nghanol Llundain , 1882-84 , yna bu'n arlunydd crwydrol yn Lloegr cyn dechrau teithio ar y cyfandir, y Dwyrain Canol a De Affrica . Yn 1896 pr. nyrs , Lucy Ray (bu f. 1924 ), ac ymsefydlu yn Hammersmith , Llundain ond ni bu iddynt blant. Bu f. yn Ditchling , Sussex , 11 Meh. 1956 .

Arbenigodd mewn addurno adeiladau mawr megis y Gyfnewidfa Frenhinol yn Llundain a'r Capitol yn Nhalaith Missouri , T.U.A. , â murlenni anferth, a chynllunio carpedi a gwaith tapestri . Comisiynwyd ef gan Arglwydd Iveagh yn 1924 i beintio murlenni yn gofeb rhyfel i Dŷ'r Arglwyddi . Wedi arbrofi gyda golygfeydd o faes y gad cafodd y syniad o ddarlunio cyfoeth yr Ymerodraeth Brydeinig y syrthiodd y bechgyn er ei mwyn, ond pan oedd y gwaith ar ei hanner gwrthododd yr Arglwyddi ei dderbyn ac yn awr y mae'r lluniau mawr lliwgar yn addurno canolfan ddinesig Abertawe lle y cynlluniwyd Neuadd Brangwyn i'w derbyn. Ceir casgliad mawr o'i ddyluniadau a'i gartwnau paratoadol i'r gwaith hwn yn Oriel Glynn Vivian , Abertawe , lluniau yn ninasoedd Ewrob ac Awstralia , a chasgliad mawr o'i waith yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru . Yr oedd yn awdur Belgium ( 1916 ) a The way of the cross ( 1935 ). Derbyniodd lawer o anrhydeddau yma ac ar y cyfandir a'i urddo'n farchog yn 1941 .

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • T. M. Rees , Welsh painters, engravers and sculptors, 1527–1911 , 1912 ( 1912 ), 13;
  • gw. hefyd William de Belleroche , Brangwyn talks , Llundain, 1946 ( 1946 )
  • a Brangwyn's pilgrimage , Llundain, 1948 ( 1948 );
  • V. Galloway , The oils and murals of Sir Frank Brangwyn R.A. 1867-1956 a , 1962 ( 1962 );
  • a Trivium 1966 ff , 8, 1973 , 121-6 am ail ystyriaeth o'r paneli.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth