Fel un o ‘fechgyn’ Watcyn Wyn ymddiddorodd Beynon mewn barddoni , a chyhoeddwyd un o'i bryddestau cadeiriol, Tyred, canlyn Fi , yn 1912 . Enillodd goron Eist. Gen. Rhydaman yn 1922 am ei bryddest i'r ‘ Tannau coll ’. Ceir rhai o'i emynau i blant yn Llyfr emynau a thonau'r plant ( 1947 ). Y mae cryn gamp llenyddol ar ei ysgrifau, a gyhoeddwyd yn 1931 dan y teitl Dydd Calan ac ysgrifau eraill (ail arg. 1950 ); a daeth ei athrylith fel ysgrifwr i'r golwg drachefn pan oedd yn olygydd Y Drysorfa ( 1939-43 ). Cyhoeddwyd hefyd ei Detholiad o Lyfr y Salmau ( 1936 ), a ddengys yr un gelfyddyd fel llenor caboledig. Ef, a Rhys Davies (un o flaenoriaid Carmel ), oedd awduron y gyfrol Hanes Carmel, Abercrâf ( 1921 ).
Yr oedd yn bregethwr poblogaidd iawn yn y de a'r gogledd, a dotiai'r cynulleidfaoedd ar bertrwydd ei ymadroddion a'i ddywediadau bachog a disglair. Ar gyfrif hynny y mae'n siŵr y penodwyd ef i draddodi'r Ddarlith Davies ar ‘ Y ffordd dra rhagorol ’ yn 1948 ; ond nis cyhoeddodd. Etholwyd ef hefyd yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol ( 1952 ), ond bu f., ym mlwyddyn ei lywyddiaeth, ar 12 Chwef. 1953 . Claddwyd ei weddillion ym mynwent Carmel , Aber-craf .
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe