BANCROFT
,
WILLIAM JOHN
(
1871
-
1959
),
chwaraewr rygbi a chriced
.
Ganwyd
2 Maw. 1871
yn fab i
William
Bancroft
,
Carmarthen Arms
,
Stryd Waterloo
,
Abertawe
, yr hynaf o 11 o blant.
Crydd
ydoedd wrth ei grefft. Ganwyd ef yng
Nghaerfyrddin
ond magwyd ef yn nghysgod maes
Sain Helen
,
Abertawe
. Chwaraeai dros dîm ieuenctid lleol yr
Excelsiors
, cyn cael ei gêm gyntaf dros
Abertawe
ar
5 Hyd. 1889
. Ar ôl prin 17 o gemau, ac heb gêm brawf, dewiswyd ef i chwarae dros
Gymru
yn erbyn yr
Alban
yn
Chwef. 1890
pan anafwyd y dewis cyntaf,
Tom
England
o
Gasnewydd
.
Aeth
Bancroft
ymlaen i ennill
33 o gapiau
yn ddi-dor
rhwng 1890 ac 1901
, record na thorrwyd tan
1954
gan
Ken
Jones
(
Casnewydd
). Yr oedd yn
gefnwr
digymar, a chanddo lygaid craff a dwylo diogel y
cricedwr
profiadol: treuliai oriau maith yn perffeithio'i gicio, a chic gosb adlam o'i eiddo a enillodd y gêm yn erbyn
Lloegr
yn
1893
, pan gipiodd
Cymru
'r
goron driphlyg
am y tro cyntaf erioed. Arweiniodd
Gymru
i'w hail
goron
yn
1900
. Ef oedd un o'r cyntaf i'w cyflogi fel
chwaraewr proffesiynol
gan
Glwb Criced Morgannwg
(a sefydlwyd yn
1888
) yn
1895
am ddwy bunt yr wythnos. Bu f.
3 Maw. 1959
, yn
Abertawe
.
Bu ei frawd
JACK
BANCROFT
(
1879
-
1942
) yn ei dro yn
gefnwr
nodedig dros
Abertawe
a
Chymru
gydag 13 o gapiau
rhwng 1908 ac 1912
.
Llyfryddiaeth:
-
J.B.G. Thomas
,
Great rugger players, 1900-1954
,
Llundain, 1955
;
-
David Smith
a
Gareth Williams
,
Fields of Praise. The official history of
the Welsh Rugby Union 1881-1981
, Caerdydd, 1980
;
-
J.H. Morgan
,
Glamorgan County Cricket
, Llundain,
1952
;
-
South Wales Evening Post
,
4 Maw. 1959
;
-
South Wales Echo
,
4 Maw. 1959
.
Awdur:
Yr Athro Gareth W. Williams, Aberystwyth