Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ALBAN DAVIES , DAVID ( 1873 - 1951 ), gŵr busnes a dyngarwr . G. 13 Ebr. 1873 yng nghartref ei fam, Hafod Peris , Llanrhystud, Cer. , yn fab ieuengaf Jenkin Davies , capten llong , ac Anne (g. Alban ) ei wraig. Pan adawodd yr ysgol leol yn 14 oed aeth i weithio ar fferm ei ewythr yn Hafod Peris , gan fod ei dad newydd ddioddef colledion ariannol. Cawsai ei frodyr eu haddysg yng ngholeg Llanymddyfri , felly cynilodd ei enillion a mynychu Ysgol Owen yn Nghroesoswallt pan oedd yn 18 oed. Ar 28 Tach. 1899 pr. â Rachel Williams , Brynglas , Moria , Penuwch , yn Eglwys y Drindod , Aberystwyth , a bu iddynt 4 mab a merch. Aethant i weithio gydag Evan , brawd Rachel , a gadwai fusnes laeth lwyddiannus yn Llundain . Ymhen yrhawg prynodd David Alban Davies gwmni llaeth Hitchman a ddatblygodd yn fusnes lewyrchus o dan ei gyfarwyddyd. Yn 1933 cododd dŷ moethus, Brynawelon , Llanrhystud ac ymddeol yno, gan adael dau o'i feibion, Jenkin a David Harold , i ofalu am y busnes. Bu f. 2 Rhag. 1951 a'i gladdu ym Mhen-uwch .

Ar ddechrau ei yrfa ymdynghedodd i roi'r ddegfed ran o'i enillion i'r eglwys. O ganlyniad, ac mewn cydweithrediad ag ychydig aelodau eraill, daeth eglwys Moreia (MC) , Walthamstow , i fod, a chynorthwyodd godi tŷ gweinidog yno. Cododd ysgoldy (MC) ger ei hen gartref yn Llanrhystud yn ogystal. Gwasanaethodd naw ml. ar Gyngor Bwrdeistref Walthamstow . Wedi dychwelyd i Gymru bu'n siryf Ceredigion yn 1940 a daeth yn aelod ac yn henadur ( 1949 ) Cyngor Sir Aberteifi , gan fod yn gadeirydd y pwyllgorau lles ac iechyd . Ef oedd cadeirydd Cymdeithas Tai Hen Bobl Aberystwyth a'r Cylch pan brynwyd Deva , cartref i'r hen y bu ef yn hael iawn ei roddion iddo. Cymerai ddiddordeb arbennig mewn gwelliannau mewn amaethyddiaeth a rhoddodd £10,000 i'r Adran Iechyd Anifeiliaid yng Ngholeg Prifysgol Cymru , Aberystwyth . Bu'n llywydd Cymdeithas Gydweithredol Ffermwyr Gogledd Ceredigion am gyfnod. Cefnogai addysg , gan fod yn gadeirydd cyntaf rheolwyr Ysgol Uwchradd Fodern Dinas , Aberystwyth , ac yn rheolwr C.P.C. , Aberystwyth a Phrifysgol Cymru . Ar fyr rybudd prynodd a chyflwynodd i'r coleg 200 erw o dir ar ystad Penglais rhag i adeiladau anaddas gael eu codi yno. Derbyniodd radd LL.D. er anrh. yn 1947 am ei gymwynas. Y flwyddyn ddilynol cyflwynodd ei wraig fen gyntaf y llyfrgell deithiol i'r Cyngor Sir i gynnal gwasanaeth a werthfawrogir yn fawr gan bobl cefn gwlad Ceredigion .

Llyfryddiaeth:

  • Llawlyfr Cymdeithas Ceredigion Llundain , 1952-3 , 5-7;
  • gwybodaeth gan Mrs. Margaret Alban Davies, Aberaeron .

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth