Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



YALE ( Bywg. , 1042) nid yn Llanelidan , sydd y tu allan i ffiniau Iâl , eithr ym Mryneglwys y mae Plâs-yn-Iâl .

Atodiadau a chywiriadau:

YALE (TEULU), Plas yn Iâl ( Llanelidan ) a Plas Gronw ( Wrecsam ). Yr oedd y teulu hynafol hwn yn sir Ddinbych yn disgyn o Osbwrn Wyddel , Corsygedol , sir Feirionnydd [q.v.] , hynaif Fychaniaid Corsygedol , trwy briodas Elise , gor-or-orŵyr Osbwrn , ag aeres Allt Llwyn Dragon ( Plas yn Iâl wedi hynny). Addysgwyd ei ŵyr ef,

THOMAS YALE ( c. 1526 - 1577 ), cyfreithiwr eglwysig , trydydd mab David Lloyd ( Yale ) a Gwenhwyfar Lloyd , Llwyn-y-maen [q.v.] , yng Ngholeg Queens ’, Caergrawnt , a daeth yn gymrawd o'r coleg hwnnw ( 1544-67 ) ar ôl iddo raddio. Yn 1546 , derbyniodd is-urddau eglwysig (‘minor orders’) , 24 Medi 1556 , gan William Glyn , esgob Bangor [q.v.] , a'i sefydlodd yn rheithoraeth Llantrisant , sir Fôn , ychydig wythnosau'n ddiweddarach. Ni bu'n byw yno fodd bynnag, eithr ymgymhwysodd ar gyfer gyrfa ym myd y gyfraith trwy ddyfod yn Ll.D. ( 1557 ) ac yn gyfreithiwr yn llys archesgobol Caergaint ( 1559 ) — mewn pryd i gymryd rhan flaenllaw yn y trefniadau cyfreithiol ynglŷn ag apwyntiad Matthew Parker yn archesgob Caergaint . Gwnaeth, Parker ddefnydd pur helaeth ohono, gan ei wneuthur yn ganghellor , yn ‘ vicar-general ,’ yn farnwr y ‘court of audience,’ ac edrych arno fel gŵr ei ddeheulaw, a'i anfon amryw droeon ar ymweliadau esgobol , yn cynnwys dau ymweliad ag esgobaeth Bangor , 1566 a 1576 , yr ail dro gyda Nicholas Robinson [q.v.] , a'i enwi fel ysgutor yn ei ewyllys. O 1562 hyd 1570 yr oedd yn ganghellor esgobaeth Bangor ac o 1564 hyd 1573 yn brebend y Faenol yn eglwys gadeiriol Llanelwy , a gyfrifid yn werth £40 y flwyddyn. Yr oedd yn ‘ Dean of Arches ’ o 1567 hyd 1573 ac ar 12 Gorffennaf 1570 gwnaethpwyd ef yn gyd-geidwad (gyda mab Parker ) o lys ewyllysiau (‘prerogative court’) Caergaint . Ar ôl cael ei ethol yn archesgob Caergaint , 1576 , ymgynghorodd Grindal â Yale a William Awbrey [q.v.] ar fater diwygio y llysoedd eglwysig , a phan gymerwyd lle Grindal oddi arno (‘sequestration’), bu Yale yn gweinyddu'r holl archesgobaeth hyd adeg ei afiechyd marwol ym mis Tachwedd 1577 pryd y'i dilynwyd gan Awbrey .

Y mae'n weddol sicr mai mab anghyfreithlon John Wyn ( Yale ) , aer Plas yn Iâl a brawd hŷn Thomas Yale , oedd



DAVID YALE (neu LLOYD ) (fu f. 1626 ), canghellor Caer . Dilynodd ei ewythr i Goleg Queens ’, Caergrawnt , 1555 , a bu yntau, fel ei ewythr, yn gymrawd ei goleg ( 1565-81 ). Wedi iddo raddio, cafodd reithoraeth Llandegla ( 1564-73 ) ac yn 1578 cafodd ei ddewis yn brebend y Faenol ar ôl ei ewythr. Gydag Edmund Meyrick [q.v.] [Ni chafwyd erthygl] bu'n gweinyddu esgobaeth Bangor pan oedd yn wag ( 1585 ) rhwng cyfnod Nicholas Robinson [q.v.] a Hugh Bellot . Daeth yn brebendari Caer , 1582 , ac yn ganghellor yr esgobaeth , 1587 . Yn 1598 prynodd diroedd lawer gan deulu Erddig ( Erthig ) (gw. dan Edisbury ), gan werthu rhai ohonynt eithr cadw Plas Gronw a fu'n gartref ei deulu hyd 1721 . Priododd ei fab, Thomas Yale II , â merch George Lloyd , esgob Caer [q.v.] , ac wedi marw ei gŵr ac iddi hithau ail- briodi â llywiawdr New Haven (Con., U.D.A.) , aeth ei weddw a'i phlant i fyw yn Plas Gronw gyda'i thad-yng-nghyfraith.

Ŵyr i Thomas Yale II oedd



ELIHU YALE ( 1649 - 1721 ), marsiandwr yn yr India . Yn America y g. ef eithr dychwelodd i Brydain ( c. 1651 ) yn blentyn gyda'i dad, David Yale ( II ) a ychwanegodd Lwyn Einion at eiddo'r teulu. Cafodd y mab ei addysg yn Llundain a danfonwyd ef gan ei dad i Madras ( c. 1670 ) i fod yn glerc o dan yr East India Company . Daeth yn llywiawdr (‘ governor ’) yno ( 1687-99 ), a dychwelodd gyda ffortiwn o £200,000 i fyw yn Llundain (fel un o lywiawdwyr y cwmni) bob yn ail â Phlas Gronw lle yr oedd yn noddwr hael i eglwys Wrecsam ac yn fenthyciwr arian i Josua Edisbury [q.v.] ; eithr cofir ef yn bennaf am ei roddion ( 1714-21 ) i'r coleg yn New Haven , a enwyd yn Brifysgol Yale wedi hynny ar ei enw ef. Bu f. yn Llundain yn 1721 heb wneuthur ei ewyllys. Aethpwyd â'i weddillion i Wrecsam i'w claddu, a rhannwyd y stad rhwng cyd-aeresau, a werthodd y rhan fwyaf ohoni. Aeth Plas Gronw yn ôl i feddiant stad Erthig yn 1728 a thynnwyd y tŷ i lawr yn 1876 .

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography , a'r ffynonellau a enwir yno;
  • J. E. Griffith , Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families , 1914 , 189;
  • J. Y. W. Lloyd , History of the Princes, the Lords Marcher, and the Ancient Nobility of Powys Fadog , v, 137-44;
  • A. N. Palmer , History of the thirteen country townships of the old parish of Wrexham, and of the townships of Burras Riffri, Erlas, & Erddig Being the fifth and last part of "A history of the town and parish of Wrexham" , 1903 , 216-20, 244-53;
  • Thomas , A History of the Diocese of St. Asaph , 1912 , i, 133;
  • A. Ivor Pryce , The Diocese of Bangor in the sixteenth century being a digest of the registers of the bishops, A.D. 1512-1646 , 1923 , 15, 50;
  • Venn , Alumni Cantabrigienses .

Awdur:

Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor