Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WYNNE , ELLIS ( Bywg. , 1038)

Ym mhlwy Llandanwg (nid ‘ Llanfihangel y Traethau ’) y mae'r Lasynys .

Atodiadau a chywiriadau:

WYNNE , ELLIS ( 1670/1 - 1734 ), clerigwr a llenor ,

awdur Gweledigaetheu y Bardd Cwsc ; g. Mawrth 1670/1 yn y Lasynys , gerllaw Harlech (ac ym mhlwyf Llanfihangel-y-Traethau ), yn fab i Edward Wynne , a oedd yn disgyn o deulu adnabyddus yn sir Feirionnydd ( Wynne , Glyn Cywarch ); mam Ellis Wynne oedd etifeddes y Lasynys . Ni ddarganfuwyd, hyd yn hyn, ym mhle y cafodd Ellis Wynne ei addysg cynnar na pha fodd y treuliodd ei amser hyd nes yr aeth i Goleg Iesu , Rhydychen , 1 Mawrth 1691/2 . Arferid credu iddo adael Rhydychen heb radd, ond y mae tystiolaeth ddiweddar ( A. I. Pryce , Diocese of Bangor during three centuries a N.L.W. Vivian MS. 31 ) yn awgrymu iddo raddio'n B.A. (a chymryd gradd M.A. wedi hynny). Gradd neu beidio y mae digon o dystiolaeth ei fod yn ŵr a gawsai addysg dda a'i fod o deulu diwylliedig. Dywedai traddodiad lleol iddo fod yn dilyn y gyfraith cyn i'w gâr Humphrey Humphreys , esgob Bangor (a Henffordd wedi hynny) [q.v.] , awgrymu iddo gymryd urddau eglwysig. Cafodd ei ordeinio'n ddiacon ar 24 Rhagfyr ac yn offeiriad ar y dydd olaf o'r un mis yn y flwyddyn 1704 .

Priododd Ellis Wynne (1) Medi, 1698 , â Lowry Wynne , Moelyglo , cares a chymdoges iddo (bu hi f. ym mis Gorffennaf 1699 ar enedigaeth eu cyntaf-anedig, Edward , a fu yntau f. cyn cyrraedd ei ddwyflwydd oed); a (2) â Lowry Lloyd , Hafod Lwyfog , Beddgelert . Ganwyd naw o blant o'r ail briodas; sonnir isod am William , yr ail fab, ac Edward , y mab ieuengaf.

Ar y dydd cyntaf o Ionawr 1704/5 daeth Ellis Wynne yn rheithor plwyf cyfagos Llandanwg ; yr oedd gofal capelwriaeth Llanbedr hefyd arno. Ym mis Tachwedd 1706 ysgrifennodd lythyr at yr arglwyddes Margaret Owen , gweddw Syr Robert Owen , Porkington ( Brogyntyn yn awr), swydd Amwythig (â chysylltiad ganddo hefyd â Glyn Cywarch ), gan ddechrau fel hyn — ‘ My Parishioners of Llandanwg and my Self are extreamly desirous of a Chappell again at Harlech … ’ (un o lythyrau Brogyntyn , yn y Llyfrgell Genedlaethol ; gw. ef., ynghyd â llythyr arall gan Ellis Wynne yng nghasgliad Brogyntyn , yn Dauganmlwyddiant Ellis Wynne, Llawlyfr y Dathliad , 1934 , ac yn Jnl. Merioneth Historical Soc. , 1949 ). Yn 1711 rhoes heibio ofalu am Llandanwg (a Llanbedr ) ac o fis Gorffennaf y flwyddyn honno hyd ei farwolaeth bu'n rheithor Llanfair-juxta-Harlech . (Gw. manylion am ei waith fel offeiriad a'i fywyd yn gyffredinol, a rhestr o rai o'i lyfrau a'i lawysgrifau, yn Dauganmlwyddiant Ellis Wynne ).

Fe gofir am Ellis Wynne yn fwyaf dim fel awdur Gweledigaetheu y Bardd Cwsc , a argraffwyd am y tro cyntaf yn 1704 , yn Llundain ; o'r clasur pros nodedig hwn yr oedd o leiaf 32 o argraffiadau wedi ymddangos hyd at y flwyddyn 1932 ac o leiaf tri chyfieithiad Saesneg wedi eu paratoi — ceir manylion yn Jnl. of the Welsh Bibliog. Soc. , iv, 199-208. Yr oedd yr awdur wedi cyhoeddi eisoes ( Llundain , 1701 ) ei gyfieithiad ( Rheol Buchedd Sanctaidd … )o Holy Living … Jeremy Taylor . Yn 1710 ymddangosodd ei argraffiad o'r Llyfr Gweddi Gyffredin . Yn y Llyfr Gweddi hwn yr argraffwyd ei emyn mwyaf adnabyddus, sydd yn dechrau ‘ Myfi yw'r Adgyfodiad Mawr ’; cafwyd pedwar emyn arall ganddo, ynghyd â fersiwn o un o'r salmau a dwy garol plygain, mewn gyhoeddwyd wedi iddo farw, gan Edward Wynne , sef yn Prif Addysc y Cristion … 1755 . Bu Ellis Wynne f. 13 Gorffennaf 1734 a chladdwyd ef o dan yr allor yn Llanfair-juxta-Harlech .



Ail fab Ellis Wynne o'r ail wraig oedd WILLIAM WYNN ( 1704 - 1761 ), clerigwr ; g. 14 Gorffennaf (a'i fedyddio 15 Gorffennaf ) 1704 . Cafodd ef ei addysg yng Nghaer dan Dr. Henchman , yn Llanegryn , sir Feirionnydd , dan John Edwards , 1717-22 , ac yng Ngholeg Iesu , Rhydychen , 10 Mawrth 1722/3 hyd Gorffennaf 1726 ( B.A. ac M.A. ). Ordeiniwyd ef yn ddiacon ym Mangor , 6 Awst 1726 , ac yn offeiriad ar 14 Gorffennaf 1728 . Bu'n gurad Llanaber i gychwyn ( 13 Awst 1726–Medi 1731 ), a bu'n gwasnaethu ym Mallwyd a sir Fôn cyn dychwelyd i sir Feirionnydd yn 1733 yn guard i'w dad yn Llanfair-juxta-Harlech a'i ddilyn, 21 Medi 1734 , yn rheithor y plwyf hwnnw. Ym mis Ebrill 1750 daeth yn rheithor Llanaber .

Priododd William Wynn (1) 28 Ionawr 1733/4 , â Jane , ferch William Wynne , Maesyneuadd , gerllaw Harlech (bu hi f. 9 Rhagfyr 1734 , ar enedigaeth plentyn); a (2) â Jane , ferch Hugh Lloyd , Trallwyn , sir Gaernarfon . O'r ail briodas cafwyd unig ferch, Ellin (gw. manylion pellach yn Dauganmlwyddiant Ellis Wynne … ). Bu William Wynne f. ym mis Gorffennaf 1761 .



Bedyddiwyd EDWARD WYNNE ( 1715 - 1767 ), mab ieuengaf Ellis Wynne , 25 Mawrth 1714/5 . Cyfeiriwyd eisoes at ei gyfieithiad ( Prif Addysc y Cristion …) a gyhoeddwyd yn 1755 pan oedd yn gurad Llanaber o dan ei frawd William ; bu wedyn yn offeiriad Penmorfa , sir Gaernarfon . Y mae cyfeiriadau ato yn ewyllys ei dad ac yn llyfrau nodiadau ei frawd William ; ceir manylion llawn yn Dauganmlwyddiant ac mewn erthyglau yn Jnl. of the Welsh Bibliog. Soc. , 1934 .

Ffynonellau:

  • Llyfryddiaeth lawn yn Dauganmlwyddiant Ellis Wynne, Llawlyfr y Dathliad yn eglwysi Llanfair a Llandanwg, ac yng ngholeg Harlech, Gorffennaf 17, 1934 , Aberystwyth, 1934 , 1934 ;
  • gw. hefyd erthygl gan John Lloyd yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionydd , i, 1949 .

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1970