Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , JOHN ( 1856 - 1917 ), athro cerdd ac arweinydd corawl ;

g. yn 20 Castle Square , Caernarfon , 26 Hyd. 1856 , yn fab i Humphrey ac Ann Williams . Arweiniai 'r tad y canu yng nghapel Wesleaid y dref, ac hefyd gôr y capel. Yn 8 oed gosododd y tad y plentyn i ddysgu canu'r piano gyda Robert Roberts organydd eglwys gadeiriol Bangor , ac yn ddiweddarach i gael gwersi mewn cynghanedd a chanu'r organ gyda Dr. Rolant Rogers . Yn 1880 penodwyd ef yn organydd a chôrfeistr eglwys Crist , Caernarfon . Ystyrid ef yn un o gyfeilyddion gorau ei gyfnod, yn feirniad cymeradwy ac yn arweinydd gwyliau cerddorol yr eglwys . Enwogodd ei hunan fel arweinydd corawl yn ieuanc. Enillodd ei wobr gyntaf gyda chôr capel y Wesleaid yn 1875 . Ac yn yr eisteddfodau cenedlaethol a ganlyn — 1876 , 1888 gyda chôr meibion yn Wrecsam , a Rhyl 1892 ; gyda chôr cymysg yn Abertawe , 1891 (yr ail wobr); ym Mlaenau Ffestiniog 1898 (hanner y wobr); Llundain 1909 ; Wrecsam 1912 . Efe oedd arweinydd côr eisteddfodau cenedlaethol Caernarfon 1886 , 1894 a 1906 , a Bae Colwyn 1910 . Perfformiodd ‘ Y Meseia ’, ‘ Elijah ’ ac amryw o gyfanweithiau'r meistri, ac operâu Gilbert a Sullivan gyda'r Caernarfon Operatic Society . Bu côr meibion Brenhinol Eryri o dan ei arweiniad yn rhoddi cyngerdd yng nghastell Windsor yn 1899 , ac anrhegwyd yr arweinydd â batwn hardd. Canodd y côr yng nghastell Caernarfon ar arwisgiad Tywysog Cymru yn 1911 . Torrodd ei iechyd i lawr yn 1914 , a gwnaed tysteb gyhoeddus iddo yn gydnabyddiaeth am ei lafur (a chafodd ei briod y pensiwn sifil). Bu f. 25 Tach. 1917 , a chladdwyd ym mynwent Llanbeblig .

Ffynonellau:

  • Y Cerddor ; Ion. 1900 ; Gorff. 1915 ; Ion. 1918 .

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn

Blwyddyn Cyhoeddi: 1970