Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , DAVID ( 1877 - 1927 ; D.W.B. , 1156), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac athro coleg ; g. 4 Mai 1877 yng Nghaergybi , yn fab i Eliezer ac Elizabeth Williams . Darllenasai ei dad (bu f. 1914 ), brodor o sir y Fflint , a oedd yn saer coed ac yn flaenor yn ei eglwys, lawer o ddiwinyddiaeth, ac yr oedd ganddo grap ar Roeg . Cadw siop a wnai'r fam (bu f. 1923 ). Aeth y mab i ysgolion Caergybi , Biwmaris a Chroesoswallt (tan Owen Owen , 1850 - 1920 , ( Bywg. , 675-6) . Yna aeth i goleg y Brifysgol , Aberystwyth , lle y graddiodd yn 1898 gydag anrhydedd mewn Groeg a Lladin , ac oddi yno i goleg yr Iesu , Rhydychen (gydag ysgoloriaeth ), ac ennill yno radd gydag anrhydedd yn y clasuron, Lit. Hum. , a diwinyddiaeth. Yn 1903 daeth yn fugail (ordeiniwyd yn 1904 ) ar eglwys Clifton Street (M.C. Saesneg) , Caerdydd , ond yn 1905 penodwyd ef i gadair hanes eglwysig yng ngholeg diwinyddol Trefeca . Pan symudwyd y coleg i Aberystwyth yn 1906 , rhoddodd y gadair honno i fyny, a phenodwyd yn athro ar astudiaethau'r Testament Newydd . O 1916 hyd 1918 bu'n gaplan gyda'r Royal Welsh Fusiliers , a gwasanaethodd gyda hwy yn yr Aifft ac ynghanol ymladd ffyrnig ym Mhalesteina . Yr oedd yn eithriadol boblogaidd ymhlith y milwyr , ac yr oedd ganddo ddylanwad mawr arnynt. Er ei fod yn athro ysbrydoledig tra yn Aberystwyth , dywedir na fedrai ddygymod â'r syniad o fod yn athro yn barhaus, gymaint oedd ei awydd am fod yn weinidog . Enillasai fri mawr fel pregethwr , yn Gymraeg a Saesneg , drwy Gymru , a hefyd ymhlith cynulleidfaoedd Cymreig yn America . Dyfarnai'r sawl a oedd yn gymwys mai Thomas Charles Edwards ( Bywg. , 184-5) yn unig, o blith y genhadaeth flaenorol o bregethwyr Cymru , a oedd yn debyg iddo yn y modd y cyfunai ysgolheictod ac argyhoeddiad mewn traethu. Yn ddiwinyddol perthynai i'r ysgol fodern, a chyfarfu â pheth gwrthwynebiad mewn rhai cylchoedd ceidwadol, yn enwedig yn ne Cymru . Disgrifiwyd ef fel ‘ gŵr yr ifanc ’, a hefyd (y tro hwn gan ysgrifennwr nad oedd ganddo gysylltiad â'r eglwysi), fel ‘ hwyrach yr unig bregethwr Cymraeg byw a fedrai ennill disgyblion ’. Pan sefydlodd ei enwad gwrs hyfforddiant mewn bugeiliaeth eglwysig yn hen goleg y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala yn 1922 , yr oedd yn naturiol i Williams wrthod y cynnig i'w benodi'n ddarpar olynydd i brifathro 'r coleg diwinyddol yn Aberystwyth , a dewis yn hytrach ymuno â'i gyfaill, David Phillips (bu f. 1951 ), yn y fenter newydd. Bu f., ar ôl afiechyd hir a phoenus, mewn ysbyty yn Llundain , 12 Gorff. 1927 , a chladdwyd ef ym mynwent y plwyf yng Nghaergybi ar y 15ed. Priodasai yn 1905 , Margaret Catherine Owen o Gaergybi . Bu hi fyw ar ei ôl ef.

Oherwydd ei farwolaeth gynnar ni ddyrchafwyd ef i brif swyddi ei enwad, ond ef oedd ‘ darlithydd Davies ’ yn 1920 . Erys ei ddarlith ar ‘ Yr Efengyl Ysbrydol ’ (h.y., gweithiau Ioan ) heb ei chyhoeddi. Cyhoeddasai esboniadau ar y Galatiaid a Chorinthiaid II , ac yr oedd yn un o'r cwmni a gyhoeddodd gyfieithiadau Cymraeg diwygiedig o'r Galatiaid a Iago . Pwysicach, fodd bynnag, oedd ei waith fel golygydd cynorthwyol a chyfrannwr i'r Geiriadur Beiblaidd ( 1924-6 ), a olygwyd gan Thomas Rees ( Bywg. , 781) . Ei brif gyfraniadau oedd ei erthygl ar yr Apocalyptig Iddewig , a'r erthygl faith ar yr Iesu hanesyddol .

Llyfryddiaeth:

  • Casgliad o nodiadau erthyglau coffa, etc., ym meddiant Mr. D. Wyn Parry o Goleg Prifysgol Cymru, Bangor;
  • Blwyddiadur y Methodistiaid Calfinaidd 1928 (gan David Phillips ).

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor