WILLIAMS
(TEULU) o
Gochwillan
,
disgynyddion o'r un gwraidd â
Griffith
o'r
Penrhyn
.
ROBIN AP
,
brawd
Gwilym ap Griffith
, y gŵr a osododd sylfeini ffyniant teulu'r
Penrhyn
(gw.
Griffith
o'r
Penrhyn
uchod
), oedd sylfaenydd y teulu. Hwyrach i
Robin
ymsefydlu ym
Modfeio
mor gynnar â
1389
. Priododd (1)
Angharad
, merch
Rhys ap Griffith
, a (2)
Lowri
, merch
Grono ab Ifan
. Bu'n cynorthwyo
Owain Glyndŵr
ar ddechrau ei wrthryfel, ond erbyn
1408
yr oedd wedi cefnu arno, oherwydd yn y flwyddyn honno, ceir ef yn
un o swyddogion y goron
yn
sir Gaernarfon
. Yr oedd yn fyw yn
1443
a bu f., yn ôl pob tebyg,
c.
1445
. (
J. R.
Jones
, ‘
The development of the Penrhyn estate to 1431
’, traethawd gradd
M.A.
,
Prifysgol Cymru
, heb ei gyhoeddi;
Min. Acc., 1153/5
;
Griffith
,
Pedigrees
, 186). Priododd ei fab o'r briodas gyntaf,
G
RIFFITH
(bu f.
c.
1475
),
Fallt
, ferch
Griffith Derwas ap Meurig
o
Nannau
(gw.
NANNAU
, T
EULU
;
Bywg.
, 640)
. Dienyddiwyd hanner brawd iddo,
Thomas
, yng
Nghonwy
yn
1468
, gan
William
Herbert
,
iarll Penfro
(
Bywg.
, 333)
, fel
Lancastriad
. Ymddengys i
Riffith
ei hun ddilyn esiampl ei berthnasau o'r
Penrhyn
mewn hyblygrwydd. Nodir ef yn gyson fel
swyddog brenhinol
a
ffermwr tan y goron
yn
sir Gaernarfon
o
1459 i 1475
, ac yn
1466
yr oedd yn
aelod o gomisiwn a benodwyd i archwilio adroddiadau fod cyllidau heb eu talu
o
Fôn
a
sir Gaernarfon
er esgyniad
Edward
IV
, (
Hist. Gwydir Family
, arg.
1927
, 19;
Min. Acc., 1180/1-1181/5
;
Cal. Pat. Rolls, 1461-7, 529
). Yr oedd ei fab,
WILLIAM AP
(bu f.
c.
1500
),
yn bleidiol iawn i'r
Tuduriaid
. Priododd
Angharad
ferch
Dafydd ab Ifan ab Einion
(
Bywg.
, 88)
, a gadwodd
Harlech
ar ran y
Lancastriaid
rhwng
c.
1460 a 1468
. Dywedir iddo
ddyfod â thrwp o wŷr meirch
i gynorthwyo
Harri Richmond
ym
mrwydr Bosworth
. Penodwyd ef yn
siryf
sir Gaernarfon
am ei oes yn
1485
, a derbyniodd fraint
dinasyddiaeth
yn
1486
. Bu f., yn ôl pob tebyg, yn
1500
(
Breese
,
Kalendars
, 50;
Cal. Pat. Rolls., 1485-94
, 55). Ei fab,
WILLIAM
,
oedd y cyntaf o'r teulu i fabwysiadu'r cyfenw
WILLIAMS
. Priododd ef
Lowri
, merch
Henry
Salesbury
o
Lanrhaeadr
, ac fe'i ceir yn ei ddisgrifio'i hun fel hen ŵr cyn
1559
. Yr oedd yn un o'r
comisiynwyr
a benodwyd yn
1535
i
archwilio ynglŷn â degymau ac eiddo ysbrydol
yn esgobaethau
Bangor
a
Llanelwy
. Yr oedd yn
siryf
sir Gaernarfon
yn
1542
,
1547
a
1553
. Gwnaeth ei ewyllys ar
24 Meh. 1558
a phrofwyd hi
3 Meh. 1559
. (Ei drydydd mab,
Thomas
, oedd sylfaenydd teulu
Williams
y
Faenol
. Gw.
Griffith
,
Pedigrees
, 190). Priododd ei fab hynaf,
WILLIAM
WILLIAMS
,
Dorothy
, merch
Syr
William
Griffith
o'r
Penrhyn
. Ymddengys iddo farw o flaen ei dad, oherwydd profwyd ei ewyllys
14 Mai 1557
. Rhaid felly mai'r tad, ac nid y mab, oedd y
William
Williams
a etholwyd yn
aelod seneddol
dros
sir Gaernarfon
yn
1558
. Sylfaenwyd teuluoedd o beth bri gan ddau fab ieuaf
William (Wynn)
Williams
—
ARTHUR
, cyndad teulu
Williams
o
Feillionydd
, ac
EDMUND
WILLIAMS
o
Gonwy
, tad
John
Williams
,
archesgob Efrog
(
Bywg.
, 982-3)
(
Cal. Wynn Papers
, 30;
llsgrau'r Penrhyn 63
;
Breese
,
Kalendars
, 51;
L. and P. Henry
VIII, viii, rhif 149 (66a 67);
Williams
,
Parl. Hist. of Wales
, 58;
llsgr. Peniarth 289
. Y mae'r dyddiadau a roddir yn
Griffith
,
Pedigrees
, 186 yn anghywir). Disgynnodd yr ystad i
WILLIAM
,
mab hynaf
William (Wynn)
Williams
, a'i daliodd hyd ei farw yn
1612
. Priododd (1)
Agnes
, merch
John ap Meredith
o
Wydir
(gw. erthygl ar
WYNN
(T
EULU
),
Gwydir
,
Bywg.
, 1031-2)
, a (2)
c.
1569
,
Barbara
, merch
George
Lumley
, mab
John
,
Arglwydd Lumley
, a gweddw
Humphrey
Llwyd
, yr
hynafiaethydd
(
Bywg.
, 560-1)
. Yr oedd yn
siryf
sir Gaernarfon
yn
1571
a
1592
, a
sir Drefaldwyn
yn
1589
a
1596
(
Breese
,
Kalendars
, 51 a 53;
Lloyd
,
Sheriffs of Montgomeryshire
, 232 a 269). Dywedir yn gyffredin i'w fab o'r briodas gyntaf,
OWEN
WILLIAMS
, gael ei ddietifeddu, ac i'w fab o'r ail briodas,
HENRY
WILLIAMS
, gael ei wneud yn aer. Nid yw'r ffeithiau cywir mor syml â hyn. Ar ryw ddyddiad anhysbys, trosglwyddasai
William
Williams
ei ystad i
Owen
Williams
, gan gyfyngu'r etifeddiaeth i etifeddion gwryw, ond bu
Owen
farw
cyn 1590
, gan adael merch yn unig, sef
Dorothy
, a briododd
Henry
Needham
o
Thornsett
,
sir Derby
(
Edwards
,
Star Chamb. Procs.
, 152 a 155). Yn
1590
, trosglwyddodd
William
Williams
ei diroedd mewn ymddiriedaeth ar ran ei ail wraig,
Barbara
, a'u mab,
Henry
Williams
. Disgrifir yr ystadau fel yn gorwedd ym
Môn
, ac yn siroedd
Caernarfon
,
Meirionnydd
,
Trefaldwyn
,
Amwythig
a
Chaer
(
llsgrau'r Penrhyn 77
; am ei fuddiannau yng
Nghroesoswallt
gw.
E. G.
Jones
,
Exchequer Procs.
, 345). Fel canlyniad i'r cam hwn, bu cyngaws rhyngddo ef a'i wyres o'r briodas gyntaf yn y
Cwrt Gward
(
Cal. S.P. Dom.
,
1603-10
, 642). Yr oedd wrth natur yn chwannog i gyfreithia, ac nid oes amheuaeth na ddioddefodd yr ystad o'r herwydd. Ymddengys iddo gynnal cweryl â'i berthynas,
John
Wynn
o
Wydir
(gw.
WYNN
GWYDIR
(T
EULU
) (
Bywg.
, 1031-2)
, drwy ei oes. Yn
1592
cyrhaeddodd y cweryl ei uchafbwynt pan gyhuddwyd
Wynn
gan
Williams
, yn
llys Siambr y Seren
, o'i daro mewn cyfarfod ynadon yn eglwys
Conwy
. Dirwywyd
Wynn
am y trosedd hwn (
Cal. Wynn. Papers
, 114, 132, 134, 727;
Clenennau L. and P.
, 45, 46, 48;
Edwards
,
Star Chamb. Procs.
, 37, 38;
Cal. S.P. Dom.
,
1603-10
, 456). Dug
Williams
achosion yn
llys Siambr y Seren
yn erbyn
Syr
Richard
Bulkeley
o
Fiwmares
(gw. tan
BULKELEY
;
Bywg.
, 51-2
) ac amryw unigolion o siroedd
Caernarfon
a
Threfaldwyn
(
Edwards
,
Star Chamb. Procs.
, 37, 38;
E. G.
Jones
,
Exchequer Procs.
, 345). Bu cweryl rhyngddo hefyd a'i berthynas,
Syr
Rhys
Griffith
o'r
Penrhyn
, a'i fab,
Pirs
Griffith
(
Bywg.
, 278
a'r erthygl,
Griffith
o'r
Penrhyn
, uchod
; llsgrau.
Penrhyn 239-41, 245-7, 249
). Yr oedd yn un o'r nifer mawr o ysgwieriaid Cymreig a fenthycodd arian oddi wrth
Syr
Thomas
Myddelton
, ac yr oedd yn morgeisio tiroedd yn
1612
. Dinoddwyd ef am ei ddyledion, yn ôl pob tebyg, a rhoddwyd ei eiddo i
Dr.
John
Craig
,
meddyg y brenin
, a ddaeth i delerau â'r aer,
Henry
Williams
, yn ddiweddarach (gw. isod). Bu f.
Chwef. 1612
(gw. yr erthygl ar
Myddelton
,
Bywg.
, 635
;
Cylch. Ll.G.C.
, i, 85;
llsgrau'r Penrhyn 276
;
T. I. J.
Jones
,
Exchequer Procs., James I
, 51-3;
Cal. S. P. Dom.
,
1611-18
, 132). Pr.
Henry
Williams
(g.
c.
1570
)
Jane
, merch
Thomas
Salusbury
o
Ddinbych
, trydydd mab
Syr
John
Salusbury
o
Lewenni
. Ymddengys fod iddo ran yng nghwerylon ei dad
o'i ieuenctid. Yn
1587
cyhuddwyd ef yng
nghwrt y Sesiwn Fawr
dros
sir Gaernarfon
o derfysg a thresmasiad ar diroedd ym meddiant
Pirs
Griffith
o'r
Penrhyn
(
Bywg.
, 278)
. Yn union ar ôl marw ei dad ym mis
Chwef. 1612
, addawodd werthu
Cochwillan
a thiroedd yn
sir Gaernarfon
i
Syr
William
Herbert
o
sir Drefaldwyn
am £1,000 er mwyn talu ei ddyledion. Ymddengys i'r arwerthiad gael ei rwystro oherwydd i
Henry
Needham
, ar ran ei fab gan
Dorothy
Williams
, wrthod trosglwyddo hawl ei wraig i ran o'r ystad. Yr oedd
Henry
Williams
yn morgeisio tiroedd yn y
Creuddyn
yn
1613
, a threthwyd ei adnoddau ymhellach gan gyfres o achosion cymhleth rhyngddo a
Henry
Needham
. Ymddengys iddo fod yn garcharor oherwydd ei ddyledion
rhwng 1616 a 1618
. Drwy ryw ffordd ddirgel prynwyd
Cochwillan
a'r tiroedd yn
Sir Gaernarfon
gan
John
Williams
(
1582
-
1650
;
Bywg.
, 982)
, cefnder
Henry
Williams
,
c.
1620
. Daeth
ystad y Penrhyn
i feddiant
John
Williams
tua'r un adeg. Ond, cyn hwyred â
1674
, gwerthodd
John
Williams
o
Ystumcolwyn
,
sir Drefaldwyn
, ŵyr
Henry
Williams
, ddaliad ym
Modfeio
i
Syr
Robert
Williams
o'r
Penrhyn
(gw. isod), y darn olaf, yn ôl pob tebyg, o'r ystad (
llsgrau'r Penrhyn 101, 244, 274-6, 460
;
Cal. Wynn Papers
, 988;
Edwards
,
Star Chamb. Procs.
, 152, 155, 156;
Smith
,
Cal. Salusbury Corr.
, 217;
T. I. J.
Jones
,
Exchequer Procs., James I
, 279;
Griffith
,
Pedigrees
, 186).
Pan fu'r
archesgob
John
Williams
farw yn
1650
, etifeddwyd yr ystadau unedig gan ei nai,
GRIFFITH
WILLIAMS
(bu f.
1663
),
mab
Robert
Williams
o
Gonwy
(bu f.
cyn 1613
; gw.
llsgrau'r Penrhyn 420
; am anawsterau ynglŷn â'i etifeddiaeth gw.
Cal. Wynn Papers
, 1943-6, 1997, 1999, 2001, 2003, 2017-9, 2025-6). Derbyniwyd ef yn aelod o
Lincoln's Inn
,
Chwef. 1624
. Priododd
Wen
, merch
Hugh (Gwyn)
Bodwrda
, cytundeb a gryfhawyd yn y genhedlaeth nesaf drwy briodas eu merch,
Catherine
, â'i chefnder
John
, ŵyr
Hugh Gwyn
Bodwrda
. Yn
1641
, fel
dirprwy islyngesydd gogledd Cymru
, danfonodd adroddiad iddo glywed am gynllwyn ymhlith reciwsantiaid y
Creuddyn
i gymryd meddiant o
Gonwy
. Yn ystod y
Rhyfel Cartref
a'r
Werin lywodraeth
dilynodd, fel rheol, arweiniad ei ewythr. Yr oedd yn
siryf
sir Gaernarfon
yn
1651
a
1662
. Gwnaed ef yn
farwnig
gan
Gromwell
yn
1658
, a chan
Siarl
II
yn
1661
. Bu f. yn
1663
(
Breese
,
Kalendars
, 55, 56; erthyglau
Bodwrda
, a
Puw
(teulu) o'r
Penrhyn Creuddyn
;
Cal. Wynn. Papers
,
1695
;
G.E.C.
,
Complete Baronetage
, iii, 6, 212). Priododd ei fab,
Syr
ROBERT
WILLIAMS
(
c.
1627
-
1680
), yr
ail farwnig
,
(1) yn
1652
,
Jane
, merch
Syr
John
Glynne
o
Benarlâg
(gw.
GLYNNE
(T
EULU
),
Penarlâg
,
Bywg.
, 263-4)
. Adlewyrchid ei syniadau gwleidyddol gan y briodas hon a'u cryfhau. Etholwyd ef a'i dad-yng-nghyfraith yn
aelodau seneddol
dros
sir Gaernarfon
yn
1656
, ac yn
1658
etholwyd ef dros
Gaernarfon
. Yr oedd yn
siryf
sir Gaernarfon
yn
1670
. Pr. (2) yn
1671
,
Frances
, gweddw'r
Cyrnol
Whyte
o'r
Brodordy
,
Biwmares
, merch
Syr
Edward
Barkham
,
barwnig
(
Cal. Wynn Papers
, 1982, 2121;
llsgrau'r Penrhyn 430
;
Williams
,
Parl. Hist. of Wales
, 61;
G.E.C.
,
Complete Baronetage
, iii, 213;
Breese
,
Kalendars
, 56). Dilynwyd ef gan ei ddau fab,
Syr
JOHN
WILLIAMS
(bu f.
1682
),
3ydd barwnig
, a
Syr
GRIFFITH
WILLIAMS
(bu f.
1684
),
4ydd barwnig
, a fu farw yn ddietifedd,
Hugh
Williams
o'r
Marl
, trydydd mab
Syr
Griffith
Williams
,
y barwnig cyntaf
(gw.
WILLIAMS
o'r
MARL
,
Bywg.
, 962-3)
oedd y
barwnig
nesaf. Daeth y
Penrhyn
a
Chochwillan
i feddiant
Frances
, merch hynaf
Syr
Robert
Williams
, a'u gadawodd, yn ei thro, i'w dwy chwaer fel cyd-etifeddesau, sef (1)
Anne
, a briododd
Thomas
Warburton
o
Winnington
,
sir Gaer
, a (2)
Gwen
, a briododd
Syr
Walter
Yonge
o
Escot
yn
Nyfnaint
.
Rhwng 1765 a 1785
llwyddodd
Richard
Pennant
, drwy briodas a phryniant, i ail uno dau hanner yr ystad. (gw. yr erthygl,
PENNANT
(Teulu),
Bywg.
, 700)
.
Llyfryddiaeth:
- Dynodir y ffynonellau yng nghorff yr erthygl.
Awdur:
Yr Athro Glyn Roberts, M.A., (1904-1962), Bangor